System ffitrwydd corfforol a ddatblygwyd gan Joseph Pilates yn hanner cyntaf yr 20g yw Pilates (/pɪˈlɑːtɪz/;[1] Almaeneg: [piˈlaːtəs]). Galwodd Joseph Pilates ei ddull yn "Contrology". Mae'n cael ei arfer yn fyd-eang, yn arbennig mewn gwledydd Gorllewinol.[2]

Pilates

Ychydig o dystiolaeth sy'n sail i'r dybiaeth bod Pilates yn lleddfu poen yng ngwaelod y cefn, neu'n gwella cydbwysedd yr henoed.  Nid yw Pilates wedi'i brofi fel triniaeth effeithiol ar gyfer unrhyw gyflwr meddygol. Mae rhywfaint o dystiolaeth bod sesiynau Pilates rheolaidd yn gallu cynorthwyo gyda chyflyru cyhyrau oedolion iach, o gymharu â pheidio gwneud unrhyw ymarfer corff o gwbl.

Yn ei lyfr Return to Life through Contrology,[3] mae Joseph Pilates yn cyflwyno ei ddull fel y gelfyddyd o symudiadau wedi'u rheoli, sydd i fod i deimlo fel ymarfer corff (yn hytrach na therapi) pan mae'n cael ei arfer fel y dylai. O wneud yn gyson, mae Pilates yn gwella hyblygrwydd, yn rhoi cryfder ac yn datblygu rheolaeth a gwytnwch trwy'r corff.[4] Mae'n rhoi pwyslais ar aliniad, anadlu, datblygu craidd cryf, a gwella cydlyniad a chydbwysedd. Mae'r craidd, sef cyhyrau'r abdomen, gwaelod y cefn, a'r cluniau, yn aml yn cael ei alw yn y "pwerdy" ac yn cael ei ystyried yn allweddol i sefydlogrwydd yr unigolyn.[5] Mae system Pilates yn caniatau i wahanol ymarferion gael eu haddasu i lefel yr unigolyn, a hefyd amcanion a chyfyngiadau'r hyfforddwr a'r ymarferydd. Gellir cynyddu dwysedd dros amser wrth i'r corff ddod i arfer â'r ymarferion.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Pilates – pronunciation of Pilates by Macmillan Dictionary". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 November 2012. Cyrchwyd 8 July 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Ellin, A. (21 June 2005). "Now Let Us All Contemplate Our Own Financial Navels". New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 April 2009. Cyrchwyd 2007-09-20. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. Pilates, Joseph (1998) [1945]. Pilates' Return to Life through Contrology. Incline Village: Presentation Dynamics. tt. 12–14. ISBN 0-9614937-9-8.
  4. Mayo Clinic Staff (2012). "Pilates for Beginners: Explore the Core of Pilates". Mayo Clinic. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-18. Cyrchwyd 2012-11-04. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. Houglum, Peggy (2016). Therapeutic Exercise for Musculoskeletal Injuries (arg. 4th). Human Kinetics. tt. 297–299. ISBN 9781450468831.