Llecyn cymylog yn lens y llygad sy'n amharu ar y golwg yw pilen (hefyd rhuchen, magl, cataract). Mae pilennau yn aml yn datblygu yn araf ac yn gallu effeithio ar un neu'r ddwy lygad. Gall symptomau gynnwys pyliad lliwiau, gweld yn aneglur, lleugylchoedd o amgylch golau, anhawster gyda goleuadau llachar, a thrafferth gweld yn y nos.[1] Gall hyn arwain at drafferth wrth yrru, darllen, neu adnabod wynebau.[2] Gall golwg gwael sy'n cael ei achosi gan bilennau hefyd gynyddu'r risg o gwympo ac iselder.[3] Pilennau sydd y tu ol i hanner yr achosion o ddallineb a 33% o'r achosion o nam ar y golwg ledled y byd.[4][5]

Pilen
Enghraifft o'r canlynolarwydd meddygol, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathclefyd lens, monogenic disease, clefyd Edit this on Wikidata
SymptomauNam ar y golwg, diplopia edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae pilennau gan amlaf yn ganlyniad i heneiddio ond gall ddigwydd o ganlyniad i drawma neu amlygiad i ymbelydredd, gall fod yn bresennol ers genedigaeth, neu ddilyn triniaeth llygad oherwydd problemau eraill.[6] Mae ffactorau risg yn cynnwys clefyd siwgr, ysmygu tobacco, gormod o olau haul, ac alcohol. Gall naill ai clympiau o brotein neu bigment melyn-brown sydd yn y lens ostwng trawsyrriant golau i'r retina yng nghefn y llygad. Ceir diagnosis trwy archwilio'r llygad.

Mae dulliau o atal pilennau yn cynnwys gwisgo sbecotl haul a pheidio ag ysmygu. Yn y cyfnod cynnar gellir gwella'r symptomau trwy wisgo sbectol. Os nad yw hynny'n helpu, yr unig dull effeithiol o'i drin yw trwy driniaeth i dynu'r lens gymylog a'i chyfnewid am lens artiffisial. Dim ond os yw'r pilennau'n achosi problemau y bydd angen triniaeth, ac mae hynny fel arfer yn gwella ansawdd bywyd y claf.[7] Nid oes triniaeth pilennau ar gael mewn nifer o wledydd, ac yn arbennig ar gyfer menywod, pobl sy'n byw yng nghefn gwlad, a'r rhai na all ddarllen.

Mae tua 20 miliwn o bobl yn ddall o ganlyniad i bilennau. Pilennau sydd y tu ol i tua 5% o'r achosion o ddallineb yn yr Unol Daleithiau a bron 60% o'r achosion o ddlalineb mewn rhannau o Affrica a De America.[8] Mae dallineb o ganlyniad i bilennau i'w weld mewn tua 10 i 40 o bob 100,000 o blant yn y byd sy'n datblygu, ac 1 i 4 o bob 100,000 o blant yn y byd datblygedig.[9] Mae pilennau yn dod yn fwy cyffredin gydag oedran. Mae dros hanner pobl yn yr Unol Daleithiau wedi cael pilennau erbyn y byddant yn 80 oed.

Gweler hefyd golygu

  • Pilen galactosemig

Cyfeiriadau golygu

  1. "Facts About Cataract". September 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 May 2015. Cyrchwyd 24 May 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. "Cataract and surgery for cataract". BMJ 333 (7559): 128–32. 2006. doi:10.1136/bmj.333.7559.128. PMC 1502210. PMID 16840470. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1502210.
  3. Gimbel, HV; Dardzhikova, AA (January 2011). "Consequences of waiting for cataract surgery.". Current Opinion in Ophthalmology 22 (1): 28–30. doi:10.1097/icu.0b013e328341425d. PMID 21076306.
  4. "Visual impairment and blindness Fact Sheet N°282". August 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mai 2015. Cyrchwyd 23 Mai 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. GLOBAL DATA ON VISUAL IMPAIRMENTS 2010 (PDF). WHO. 2012. t. 6. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-03-31. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. "Priority eye diseases". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Mai 2015. Cyrchwyd 24 Mai 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  7. Lamoureux, EL; Fenwick, E; Pesudovs, K; Tan, D (January 2011). "The impact of cataract surgery on quality of life.". Current Opinion in Ophthalmology 22 (1): 19–27. doi:10.1097/icu.0b013e3283414284. PMID 21088580.
  8. Rao, GN; Khanna, R; Payal, A (January 2011). "The global burden of cataract.". Current Opinion in Ophthalmology 22 (1): 4–9. doi:10.1097/icu.0b013e3283414fc8. PMID 21107260.
  9. Pandey, Suresh K. (2005). Pediatric cataract surgery techniques, complications, and management. Philadelphia: Lippincott Williams & Wilkins. t. 20. ISBN 9780781743075. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-24. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)

Rhybudd Cyngor Meddygol golygu


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!