Pin cau

pin i ddal defnydd neu ddillad at ei gilydd

Addasiad clyfar ar y pin cyffredin yw'r pin cau [1][2] ceir hefyd ar lafar, pin clwt a pin babi [3] (Saesneg: Safety Pin). Fel mae'r enw Cymraeg yn awgrymu, mae'n cynnwys mecanwaith sbring syml a clöig (clasp). Mae dau bwrpas i'r clöig: ffurfio dolen gaeedig a thrwy hynny glymu'r pin i ba bynnag beth y caiff ei ddefnyddio, ac i orchuddio pen y pin i amddiffyn y defnyddiwr o'r pwynt miniog.

Pin cau, ar agor
Pin cau, ar gau

Defnydd Cyffredin golygu

Defnyddir pinnau cau yn aml i gau darnau o ffabrig neu ddillad gyda'i gilydd. Defnyddir pinnau cau, neu fersiwn arbennig fel arfer gyda gorchudd diogel ychwanegol, o'r enw pin cewyn (napppy/loincloth pin), yn helaeth i glymu cewynnau brethyn, gyda clöig clasp diogelwch, i atal y babi neu'r person rhag cael ei bigo. Yn yr un modd, gellir eu defnyddio i ddodi dillad wedi'u rhwygo neu eu difrodi. Gellir defnyddio pinnau clo hefyd fel ategolyn mewn gemwaith, fel clystdlysau, cadwyni, mwclus a freichled. Weithiau cânt eu defnyddio i atodi darn wedi'i frodio. Defnyddir Maint 3 yn aml mewn cwiltio a gellir ei labelu i'w brynu fel "pin cwiltio". Efallai y gelwir maint 4 a mwy yn “binnau blanced” ac ystyrir eu bod yn dderbyniol fel pinnau kilt ar gyfer gwisg anffurfiol, yn dibynnu ar ddyluniad ac ymddangosiad.

Rhagflaenydd cynnar golygu

Dyfeisiwyd y fibula, math o froetsh, gan wareiddiad y Myceaneaniaid ar benrhyn y Peloponnese, Gwlad Groeg rhwng y 14g a'r 13g CC, ac fe'i hystyrir yn rhagflaenydd cynnar i'r pin cau gan iddynt gael eu defnyddio mewn modd tebyg. Defnyddiwyd Fibulae gan fenywod a dynion Groeg i helpu i sicrhau tiwnig.[4]

Dyfeisio'r pin diogelwch Gyfoes golygu

 
Patent Hunt yn 1849 ar gyfer y pin cau (patent UDA #6,281)

Ystyrir y peiriannydd Americanaidd, Walter Hunt, fel dyfeisiwr y pin diogelwch sy'n debyg i'r rhai a ddefnyddir heddiw. Roedd y pin diogelwch yn cynnwys clespyn ("clasp") a oedd yn gorchuddio'r pwynt ac yn ei gadw rhag ei ​​agor, a thro cylchol yn y tro i weithredu fel sbring a'i ddal yn ei le.[5] Fe wnaeth Charles Rowley (Birmingham, Lloegr) gael patent pin diogelwch tebyg yn annibynnol ym mis Hydref 1849,[6] er nad yw'r cwmni bellach yn gwneud y rhain.

Gwnaeth Hunt y ddyfais er mwyn talu dyled $15 i ffrind. Defnyddiodd ddarn o wifren efydd tua 8 modfedd o hyd a gwnaeth coil yng nghanol y wifren fel y byddai'n agor pan gaiff ei ryddhau. Dyfeisiwyd y clasp ar un pen er mwyn cuddio'r ymyl miniog oddi ar y defnyddiwr.[7]

 
Pin cau fel addurn

Ar ôl cael patent U.S28 #6,281 ar 10 Ebrill 1849,[8] gwerthodd Hunt y patent i W. R. Grace and Company am $400 (tua $ 12,000 yn ddoleri 2018). Gan ddefnyddio'r arian hwnnw, talodd Hunt y $15 a oedd yn ddyledus i ffrind a chadw'r swm sy'n weddill o $385 iddo'i hun. Yr hyn na lwyddodd Hunt i sylweddoli yw y byddai W.R. Grace a Company yn y blynyddoedd i ddilyn yn gwneud miliynau o ddoleri mewn elw o'i ddyfais.[9][10]

Perygl meddygol golygu

Er y ceir defnydd di-ben-draw o'r pin clo, ceir hefyd perygl o blant yn eu llyncu. Dyfeisiodd Dr. Chevalier Jackson offerynnau arbennig ar gyfer cael gwared ar binnau clo oedd wedi eu llyncu. Gan fod plant bach yn aml yn eu llyncu ac y gellid rhoi pinnau agored yn beryglus yn eu gwddf, galwodd Jackson hwy yn “binnau peryglus” ac weithiau roeddent yn dangos trefniadau'r rhai yr oedd wedi eu tynnu.

Diwylliant golygu

 
Pin cau fel clustdlws
 
Pin cau anferthol yn Amgueddfa De Young, San Fransico

Yn ystod dyfodiad cerddoriaeth pync yn yr 1970au hwyr, daeth pinnau clo yn gysylltiedig â'r genre, ei dilynwyr a'i ffasiwn.[11] Gwnaed hyn er mwyn torri ar arferion gwisg confensiynol a hefyd i ddal darnau o ddilladach at ei gilydd. Ymysg y gwisgwyr pin clo pync mwyaf enwog oedd Johnny Rotten.[12]

Traddodiad golygu

Mae pinnau diogelwch yn dal gwerth mewn rhai diwylliannau a thraddodiadau. Yn India cedwir pinnau dros genedlaethau a'u trosglwyddo i ferched. Mae Iwcrainiaid yn defnyddio pinnau fel ffordd o atal ysbrydion drwg wrth eu cysylltu â dillad plant. Mewn gwledydd eraill mae pin diogelwch yn fath o lwc dda.[13]

Gwleidyddol golygu

Wedi ethol Donald Trump yn Arlywydd yr UDA yn 2016 dechreuodd rhai pobl wisgo pin clo fel symbol wleidyddol. Gwnaethpwyd hyn i ddangos cefnogaeth i bobl oedd wedi dioddef gwatwar hiliol, homoffobig neu grefyddol. Dilynodd arfer a ddechreuwyd ym Mhrydain am yr un pryderon wedi'r bleidlais Brexit yno ychydig fisoedd ynghynt yn 2016.[14] Roedd yr arfer yn chwaerae ar y gair "safety" yn y term Saesneg, 'safety pin'.[15]

Gweler hefyd golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. http://termau.cymru/#safety%20pin
  2. https://twitter.com/VaughanRoderick/status/1135454282520698881
  3. https://twitter.com/hughes_llion/status/1135501133168947206
  4. "Brooches and Pins | LoveToKnow". LoveToKnow (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-05-06.
  5. "Walter Hunt". National Inventors Hall of Fame. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-07-14. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  6. "Charles Rowley". Charles Rowley. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-10-26. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)
  7. Caballar, Rina. "Three Millennia of Safety Pins". The Atlantic (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-05-05.
  8. "Walter Hunt". United States Patent and Trademark Office.
  9. "LILEKS (James) :: The Bleat 2017 TUESDAY". lileks.com. Cyrchwyd 2018-05-05.
  10. Akcigit, Ufuk; Celik, Murat Alp; Greenwood, Jeremy (2016). "Buy, Keep, or Sell: Economic Growth and the Market for Ideas". Econometrica 84 (3): 943–984. doi:10.3982/ECTA12144.
  11. Punks: A Guide to an American Subculture, p53, Sharon M. Hannon, ABC-CLIO, 2010
  12. Inside the Met's New Exhibit, 'Punk: Chaos to Couture' Archifwyd 2017-02-10 yn y Peiriant Wayback.. Rolling Stone, May 7, 2013.
  13. Caballar, Rina. "Three Millennia of Safety Pins". The Atlantic (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-05-05.
  14. https://www.bbc.co.uk/news/election-us-2016-37948762
  15. https://www.vox.com/culture/2016/11/17/13636156/safety-pins-backlash-trump-brexit