Dinas a chymuned (comune) yr Eidal yw Pistoia, sy'n brifddinas talaith Pistoia yn rhanbarth Toscana. Saif tua 30 km (19 milltir) i'r gogledd-orllewin o Fflorens.

Pistoia
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth89,309 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Kruševac, Palermo, Beit Sahour, Pau, Onești, Shirakawa Edit this on Wikidata
NawddsantIago fab Sebedeus Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Pistoia Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd236.17 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr65 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaCantagallo, Alto Reno Terme, Marliana, Montale, Quarrata, Sambuca Pistoiese, Serravalle Pistoiese, Agliana, Lizzano in Belvedere, San Marcello Piteglio Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.93°N 10.92°E Edit this on Wikidata
Cod post51100 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
maer Pistoia Edit this on Wikidata
Map

Roedd Pistoria yn anheddiad hynafol cyn dod yn wladfa Rufeinig; safai ar y ffordd bwysig Via Cassia. Yn y 5g daeth y ddinas yn esgobaeth. Yn ystod y deyrnas Lombardaidd roedd yn ddinas frenhinol. Dechreuodd ei hoes fwyaf ysblennydd ym 1177 pan gyhoeddodd ei hun yn gymuned (comune): yn y blynyddoedd canlynol daeth yn ganolfan wleidyddol bwysig, gan godi muriau a sawl adeilad cyhoeddus a chrefyddol. Yn ystod y 13g daeth Pistoia o dan reolaeth Fflorens, ac fe'i hatodwyd ganddi ym 1530.

Roedd y boblogaeth yng nghyfrifiad 2011 yn 89,101.[1]

Adeiladau a chofadeiladau golygu

  • Battistero di San Giovanni
  • Cadeirlan San Zeno
  • Eglwys San Giovanni Fuorcivitas
  • Palazzo dei Vescovi
  • Palazzo Pretorio

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 15 Ionawr 2021


Oriel golygu