Plácido Domingo

actor a aned yn 1941

Mae Plácido Domingo (ganed 21 Ionawr 1941) yn denor operatig ac arweinydd Sbaeneg.[1]

Plácido Domingo
GanwydJosé Plácido Domingo Embil Edit this on Wikidata
21 Ionawr 1941 Edit this on Wikidata
Madrid Edit this on Wikidata
Man preswylManhattan, Acapulco, Madrid, Barcelona Edit this on Wikidata
Label recordioEMI Classics Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Sbaen Sbaen
Alma mater
  • National Conservatory of Music of Mexico Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr opera, arweinydd, actor Edit this on Wikidata
SwyddUNESCO Goodwill Ambassador Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laisHeldentenor, bariton, tenor Edit this on Wikidata
TadPlácido Domingo Ferrer Edit this on Wikidata
MamPepita Embil Edit this on Wikidata
PriodMarta Domingo Edit this on Wikidata
PlantPlácido Domingo Jr. Edit this on Wikidata
Gwobr/auKBE, Uwch-Groes Urdd Isabel la Católica, Modrwy Anrhydedd y Ddinas, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Addurn Aur am Wasanaeth dros Dinas Fienna, Medal Arian Fawr er Anrhydedd am Wasanaethu Gweriniaeth Awstria, Gwobr Tywysoges Asturias am y Celfyddydau, Praemium Imperiale, Urdd Cyfeillgarwch, Medal Aur Cymdeithas y Royal Philharmonic, Gran Cruz de la Orden del Mérito Civil, Anrhydedd y Kennedy Center, Hijo Predilecto de Madrid, Commandeur de la Légion d'honneur‎, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Uwch groes Urdd Infante Dom Henri, Gwobr Awstria am Gelf a Gwyddoniaeth, Commandeur des Arts et des Lettres‎, Urdd Eryr Mecsico, Knight of the National Order of the Cedar, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Madrid, Uwch Groes Urdd Haul Periw, Uwch-Groes Urdd Sifil Alfonso X, honorary doctorate of the University of Murcia, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Harvard, Commander of the Order of Cultural Merit, Grand Cross of the Order of Public Instruction, Lo Nuestro Excellence Award, Latin Recording Academy Person of the Year, Medal Aur Diwylliant Meritorious o Gloria Artis, Birgit Nilsson Prize, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gold Medal for Tourism Merit, Medaille für Kunst und Wissenschaft (Hamburg), honorary doctorate of the University of Salamanca, Galardón Camino Real, Urdd Isabel la Católica, Urdd Teilyngdod Dinesig, Civil Order of Alfonso X, the Wise, Urdd Tywysog Harri, Officier de la Légion d'honneur, Chevalier de la Légion d'Honneur, Ordre des Arts et des Lettres, Addurn er Anrhydedd am Wasanaeth i Weriniaeth Awstria, Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Order of Cultural Merit, National Order of the Cedar, Order of Public Instruction, Medal Teilyngdod Diwylliant, Dostyk Order of grade II, Gwobrau Tywysoges Asturias Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.placidodomingo.com/ Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd José Plácido Domingo Embil yn Madrid, Sbaen yn fab i Plácido Francisco Domingo Ferrer a Josefa "Pepita" Embil Echániz. Pan oedd yn wyth oed symudodd ei deulu i fyw i Fecsico. Roedd ei rieni yn gantorion a oedd wedi penderfynu ceisio ffurfio cwmni zarzuela, math o opereta delynegol ddramatig Sbaeneg sy'n newid rhwng golygfeydd llafar a chanu. Roedd Plácido ifanc yn cael ei ddefnyddio yn achlysurol gan ei rieni i chware rhannau plant yn eu cynyrchiadau.[2]

Yn 14 mlwydd oed daeth Domingo yn ddisgybl yng Nghonservatoire Cerddoriaeth Genedlaethol Mecsico lle fu'n derbyn gwersi piano, llais a chrefft arwain.[3]

Gyrfa golygu

Dechreuad golygu

O 1957, pan oedd yn 16 mlwydd oed dechreuodd chware rhannau proffesiynol yng nghwmni zarzuela ei rieni ac ar gyfer cwmnïau zarzuela eraill. Bu hefyd ar daith 185 perfformiad gyda fersiwn America Ladin o'r sioe gerdd My Fair Lady.

Wedi clyweliad gydag Opera Genedlaethol Mecsico, gan gael ei dderbyn yn aelod o'r cwmni, rhoddodd ei berfformiad opera traddodiadol cyntaf trwy chware rhan Borsa yn opera Verdi Rigoletto ar Fedi 23 yn y Palacio de Bellas Arte. Yn ogystal â chanu opera bu Domingo yn canu'r piano ar gyfer cwmnïau balet ac fel cyfeilydd ar raglenni cerddorol ar deledu Mecsico. Bu'n actio mewn dramâu gan Federico García Lorca, Luigi Pirandello, ac Anton Chekhov. Bu hefyd yn trefnu caneuon ac yn cyfrannu llais cefndirol i fand roc a rôl o'r enw Los Camisas Negras.

Sefydlu ei yrfa operatig golygu

Ym 1961 gwnaeth Domingo ei ymddangosiad gyntaf mewn rhan arweiniol fel Alfredo yn La Traviata yn Teatro María Teresa Montoya yn Monterrey. Yn yr un flwyddyn gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn yr Unol Daleithiau yn chware rhan Arturo yn Lucia di Lammermoor gyda Joan Sutherland yn rôl y teitl. Ym 1962 ymunodd ac Opera Genedlaethol Israel yn Tel Aviv gan aros yno hyd 1965 a chware 12 wahanol rôl mewn 280 o berfformiadau.

Wedi diwedd ei gontract yn Israel gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Gwmni Opera Dinas Efrog Newydd yn opera Puccini, Madama Butterfly ym 1965. Ymddangosodd am y tro cyntaf ar gyfer Opera Taleithiol Fienna ym 1967 a bu ei berfformiad cyntaf yn La Scala ym 1969. Bu ei ymddangosiad cyntaf yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden ym 1971 a'i ymddangosiad cyntaf yng Ngŵyl Salzburg ym 1975.

Ym mis Medi 1975, chwaraeodd Domingo rôl y teitl yn opera Verdi, Otello am y tro cyntaf ar gyfer Opera Taleithiol Hamburg. Daeth y rôl yn un roedd yn fwyaf enwog am ei berfformio gyda dros 200 perfformiad byw, tri recordiad disc a phedwar ymddangosiad ar ffilm.

Poblogrwydd ehangach golygu

Mae Domingo wedi lledaenu ei enwogrwydd y tu hwnt i'r byd opera. Gwerthodd ei albwm pop cyntaf Perhaps Love (1981), dros 4 miliwm o gopïau. Roedd yr albwm yn cynnwys deuawd gyda'r canwr gwlad a gwerin John Denver. Mae wedi gwneud nifer fawr o recordiadau, gan gynnwys dros 100 o operâu cyflawn. Roedd wedi ennill 11 o wobrau Grammy erbyn dechrau'r 2010au. Yn ogystal, mae wedi gwneud dros 50 o fideos a sawl ffilm, gan gynnwys Traviata ac Otello dan gyfarwyddyd Franco Zeffirelli a Carmen dan gyfarwyddyd Francesco Rosi.

Ym 1990, dechreuodd ganu gyda'i gyd tenoriaid Luciano Pavarotti a José Carreras fel un o'r Tri Thenor. Recordiad cyntaf y Tri Thenor yw'r albwm clasurol mwyaf poblogaidd erioed.

Cyfeiriadau golygu