Plât cofrestru cerbyd

Plât metel neu blastig sy'n cael ei osod ar gerbyd neu ôl-gerbyd er mwyn ei adnabod yn swyddogol yw plât cofrestru cerbyd neu blât rhifau. Mae plât gofrestru ar gyfer ceir, lorïau a beiciau modur yn ofynnol ym mhob gwlad. Amrywia'r gofynion ar gyfer cerbydau eraill, fel beiciau, cychod neu dractorau, o un awdurdodaeth i'r llall. Mae'r dynodwr cofrestru yn gyfuniad niwmerig neu alffaniwmerig sy'n unigryw i'r cerbyd ar gofrestr yr ardal neu'r wlad a gynrychiolir gan y corff sydd wedi'i ddarparu. Mewn rhai achosion, mae'r dynodydd yn unigryw i'r perchennog, yn 'rhif' o'i ddewis ei hun, yn hytrach na'r cerbyd.

Plât cofrestru cerbyd

Mae'n ofynnol yn y rhan fwyaf o awdurdodaethau bod y plât yn cael ei osod ar flaen a chefn y cerbyd, er mai un plât sydd ei angen (fel arfer ar y cefn) mewn rhai awdurdodaethau penodol neu ar gyfer mathau penodol o gerbyd, fel cychod modur. Mae cronfeydd data yn gallu defnyddio'r rhif cofrestru i adnabod gwybodaeth arall am y cerbyd, fel gwneuthurwr, model, lliw, blwyddyn gweithgynhyrchu, maint yr injan, math o danwydd, pellter ac enw a chyfeiriad y perchennog neu geidwad.

Mae platiau cofrestru cerbyd wedi bodol yng Nghymru, fel rhan o'r Deyrnas Gyfunol, ers 1904. Roedd Deddf Ceir 1903, a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 1904, yn ei gwneud yn ofynnol i bob car gael ei ychwanegu i gofrestr cerbydau swyddogol, ac arddangos platiau rhifau.  Cyflwynwyd y Ddeddf fel bod cerbydau yn gallu cael eu olrhain yn rhwydd pe byddai damwain neu achos o dor-cyfraith. Mae'r drefn o fewn Gymru, Lloegr a'r Alban yn cael ei gweinyddu gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).

Cyfeiriadau golygu