Plaid Gomiwnyddol Indonesia

Plaid Gomiwnyddol yn Indonesia oedd Plaid Gomiwnyddol Indonesia (Indoneseg: Partai Komunis Indonesia neu PKI. Hyd nes i'r blaid gael ei gwahardd wedi ymgais i gipio grym yn Indonesia yn 1965, hi oedd plaid Gomiwnyddol fwyaf y byd o ran nifer o aelodau.

Ffurfiwyd y PKI yn 1914 gan Henk Sneevliet dan yr enw Iseldireg Indische Sociaal-Democratische Vereeniging (ISDV). Yn 1965, roedd y blaid i bob golwg yn rhan o ymdrech i gipio grym, pan lladdwyd nifer o uchel-swyddogion y fyddin ar 30 Medi. Methodd y cais, a daeth Suharto i rym. Gwaharddwyd y PKI, ac yn y misoedd nesaf lladdwyd nifer fawr o'i chefnogwyr, a charcharwyd llawer eraill.