Plaid Werdd Iwerddon

Plaid Gwyrdd Iwerddon

Sefydlwyd Plaid Werdd Iwerddon (Gwyddeleg: Comhaontas Glas, yn llythrennol: "Cynghrair Werdd"; Saesneg: Green Party) yn 1981. Ers 2006 mae iddi natur drawsffiniol gan weithredu yng Ngweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon. Arweinydd y blaid yw Eamon Ryan.

Y Blaid Werdd
Comhaontas Glas
ArweinyddEamon Ryan TD
CadeiryddRoderic O'Gorman
Dirprwy ArweinyddCatherine Martin TD
Arweinydd y CynulliadSteven Agnew Aelod o Gynulliad Gogled Iwerddon
Arweinydd y SeanadSeneddwr Grace O'Sullivan
Sefydlwyd1981 (1981)
Pencadlys16–17 Suffolk Street, Dulyn 2, Iwerddon
Asgell yr ifancYoung Greens
Rhestr o idiolegauByd Gwyrdd[1]
Pleidiol i Ewrop
Sbectrwm gwleidyddolCanol-Chwith
Partner rhyngwladolGlobal Greens
Cysylltiadau EwropeaiddEuropean Green Party
Lliw          Gwyrdd ac aur
Dáil Éireann
2 / 158
Seanad Éireann
1 / 60
Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)
0 / 18
Cynulliad Gogledd Iwerddon
2 / 90
Llywodraeth leol yng Ngweriniaeth Iwerddon
12 / 949
Llywodraeth leol yng Ngogledd Iwerddon
3 / 462
Seddi Ewrop - Gweriniaeth Iwerddon
0 / 11
Gwefan
www.greenparty.ie

Hanes golygu

Sefydlwyd y blaid ym 1981 fel Plaid Ecolegol Iwerddon (Irish Ecological Party) gan Christopher Fettes. Yn 1983, newidiodd yr enw Saesneg i'r Green Alliance (yn llythrennol Gynghrair Gwyrdd). Ers 1987, enw Saesneg y blaid yw'r Green Party. Ni newidiwyd yr enw Gwyddelig (Comhaontas Glas) ers creu'r blaid ac fe'i defnyddir hyd heddiw.

Bu gan y Gwyrddion gynrychiolaeth mewn llywodraeth leol er 1985; yn y Dáil rhwng 1989-2011; yn Senedd Ewrop rhwng 1994-2004 ac yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon ers 2007.

Athroniaeth a Pholisïau Bras golygu

Er mae'r amgylchedd yw prif sbardun wleidyddol y Gwyrddion mae ganddynt bolisïau mewn meysydd eraill. Mae'r rhain yn cynnwys;[2] amddiffyn yr iaith Wyddeleg; tynnu'r oed bleidleisio i 16 oed etholiad uniongyrchol i aelodaeth yr ail dŷ yn y Weriniaeth, y Seanad Éireann, cefnogaeth i iechyd gyhoeddus genedlaethol ac yn erbyn preifateiddio dŵr Iwerddon. Maent hefyd o blaid hawl unigolion angheuol sâl i'r hawl i farw.

Cyfranogiad yn y llywodraeth golygu

O fis Mehefin 14 2007 i Ionawr 23 2011[3] roedd y Gwyrddion yn rhan o glymblaid y llywodraeth â Fianna Fáil a Progressive Democrats, ac ar ôl hunan-ddiddymu fel plaid, bu'r Gwyrddion yn rheoli gyda Fianna Fáil. Ar yr un pryd, newidiodd cadeirydd plaid y llywodraeth, Trevor Sargent, ei safbwynt. Roedd wedi addo na fyddai'r Gwyrddion yn mynd i lywodraeth gyda Fianna Fáil, ond wedi'r etholiad derbyniodd swydd Weinidog Gwladol dros Fwyd ac Amaethyddiaeth yn y llywodraeth newydd. Mewn cynhadledd arbennig, pleidleisiodd aelodau'r Blaid Werdd dros fynd i llywodraeth gyda FF gan fwyafrif o 86%[4]. Bu Cadeirydd newydd y Blaid, John Gormley, yn Weinidog Amgylchedd a Llywodraeth Leol, tra daeth Eamon Ryan yn Weinidog Cyfathrebu, Ynni ac Adnoddau naturiol[4]. Yn ystod y llywodraeth, roedd gan y Gwyrddion bedwar gweinidog. Yn ogystal â Gormley a Ryan, hwy oedd: Ciarán Cuffe (Gweinidog Gwladol dros Amaethyddiaeth, Trafnidiaeth Gynaliadwy, Cynllunio ac Amddiffyn Henebion) a Mary A. White (Gweinidog Gwladol dros Gydraddoldeb, Hawliau Dynol ac Integreiddio).

Colli ac Ennill Tir golygu

Yn dilyn eu clymblaid gyda FF, collodd y Gwyrddion eu holl seddi yn yr etholiad cyffredinol yn 2011 gan ennill ond 2% o'r bleidlais. Ond enillwyd peth tir yn ôl yn Etholiad Gyffredinol 2016 pan etholwyd 2 aelod i'r Dáil.

Canlyniadau Etholiadol golygu

Dáil Éireann golygu

Etholiad Seddi enillwyd ± Safle Pleidleisiau Dewis 1af % Llywodraeth Arweinydd
Tach 1982
0 / 166
  Dim 3,716 0.2% Dim seddi Dim
1987
0 / 166
  Dim 7,159 0.4% Dim seddi Dim
1989
1 / 166
 1  6ed 24,827 1.5% Yr Wrthblaid Dim
1992
1 / 166
   6ed 24,110 1.4% Yr Wrthblaid Dim
1997
2 / 166
 1  5ed 49,323 2.8% Yr Wrthblaid Dim
2002
6 / 166
 4  5ed 71,470 3.8% Yr Wrthblaid Trevor Sargent
2007
6 / 166
   4ed 96,936 4.7% Clymblaid (FF-GP-PD) Trevor Sargent
2011
0 / 166
 6 Dim 41,039 1.8% Dim seddi John Gormley
2016
2 / 158
 2  8fed 56,999 2.7% Yr Wrthblaid Eamon Ryan

Cynulliad Gogledd Iwerddon golygu

Etholiad Corff Seddi enillwyd ± Safle Pleidlais Dewis 1af % Llywodraeth Arweinydd
Fforwm Gogledd Iwerddon, 1996 Aelodau Fforwm G.I.
0 / 110
  Dim 3,647 0.5% Dim Seddi Dim
[[Cynulliad G.I 1998 Assembly
0 / 108
  Dim 710 0.1% Dim Seddi Dim
2003
0 / 108
  Dim 2,688 0.4% Dim Seddi Dim
2007
1 / 108
 1  6ed 11,985 1.7% Yr Wrthblaid Dim
2011
1 / 108
   7fed 6,031 0.9% Yr Wrthblaid Steven Agnew
2016
2 / 108
 1  6ed 18,718 2.7% Yr Wrthblaid Steven Agnew
2017
2 / 90
   6ed 18,527 2.3% Yr Wrthblaid Steven Agnew

Cysylltiadau â'r Undeb Ewropeaidd golygu

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o bartïon yn y Blaid Werdd Ewropeaidd, cafwyd adain Ewrosceptig cryf yn y blaid Wyddelig. Yn ystod y refferendwm ar gadarnhau Cytundeb Lisbon yn 2008, ni chymerodd y blaid safbwynt swyddogol gan mai dim ond 63.5% o'r cynadleddwyr a gefnogai'r Cytundeb, sef, llai na'r trothwy gofynnol gan statudau 2/3 y Blaid. Fodd bynnag, yn y refferendwm, pleidleisiodd y Blaid dros fabwysiadu Cytuniad Lisbon gan Iwerddon. Mewn cyngres arbennig ar 18 Gorffennaf, 2009 roedd 2/3 o gynrychiolwyr o blaid cefnogi'r cytundeb (214 ar gyfer, 107 yn erbyn).[5]

Arweinwyr golygu

Hyd nes 2001, nid oedd gan y blaid arweinydd swyddogol.

  • Trevor Sargent (2001-2007)
  • John Gormley (2007-2011)
  • Eamon Ryan (o 2011)

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Nordsieck, Wolfram (2016). "Ireland". Parties and Elections in Europe.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-05-28. Cyrchwyd 2018-09-28.
  3. https://www.theguardian.com/world/2011/jan/23/greens-quit-irish-government
  4. 4.0 4.1 https://www.rte.ie/news/2007/0614/90035-election/
  5. https://www.rte.ie/news/2009/0718/119706-greenparty/