Plaid y Ddeddf Naturiol

Roedd Plaid y Ddeddf Naturiol (Saesneg: The Natural Law Party) yn blaid wleidyddol a safai etholiadau yn y Deyrnas Unedig rhwng 1992 a 2003.

Plaid y Ddeddf Naturiol
Enghraifft o'r canlynoltransnational political party Edit this on Wikidata
Idiolegmoderate Edit this on Wikidata
Daeth i ben2001 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1992 Edit this on Wikidata
SylfaenyddMaharishi Mahesh Yogi Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolassociation déclarée Edit this on Wikidata
PencadlysPlesei Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc, y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America, Awstria, yr Almaen, Croatia, Israel, Japan, Sbaen, Yr Iseldiroedd, yr Eidal, Awstralia, Norwy, Sweden, Seland Newydd, Tsile, Gwlad Tai, Canada Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Sefydlwyd Plaid y Ddeddf Naturiol yn y Deyrnas Unedig ym mis Mawrth 1992. Geoffrey Clements oedd Arweinydd cyntaf y Blaid.[1]

Roedd y Blaid yn credu bod pump agwedd allweddol i lywodraeth lwyddiannus, gan gynnwys:

  • Datblygu ymwybyddiaeth pob unigolyn drwy raglenni Myfyrdod Trosgynnol (Transcendental Meditation)
  • Lleihau costau gofal iechyd drwy hyfforddi dinasyddion mewn asesu iechyd personol trwy hunan-ddarllen curiad y galon ac agweddau'r dull Vedig Maharishi at Iechyd.
  • Cynnal iechyd y wlad trwy greu grwpiau o arbenigwyr mewn techneg iogig.
  • Dod ag unigolyn a'r wladwriaeth i gytgord â'r Ddeddf Naturiol fel bod dylanwadau planedol anffafriol yn cael eu niwtraleiddio.
  • Sicrhau bod amgylcheddau gwaith a chartref y wlad yn cefnogi iechyd a hapusrwydd.

Yn etholiad cyffredinol 1992 safodd y blaid mewn 310 o etholaethau yn y DU gan gasglu 0.19% o'r bleidlais a phob ymgeisydd yn colli ei flaendal etholiadol.

Safodd y blaid ymgeiswyr mewn nifer o etholaethau Ewropeaidd ym 1994.

Safodd tua dwsin o ymgeiswyr yn enw'r blaid yn etholiad San Steffan 1997 a bu ambell ymgeisydd mewn etholiadau ac is etholiadau eraill heb unrhyw fath o lwyddiant etholiadol.

Ers 2003 nid yw Plaid y Ddeddf Naturiol wedi ei gofrestru fel Plaid Gwleidyddol swyddogol yn y DU gyda'r Comisiwn Etholiadol[2].

Cyfeiriadau golygu