Mae Platfform drilio yn strwythur mawr i alluogi chwilio am ac echdynnu olew neu nwy o wely’r môr. Yn ddiweddarach, defnyddid platfformau i osod terbini gwynt ar wely’r môr. Fel arfer defnyddir platfformau ar ysgafell gyfandirol, mewn cysylltiad i wely’r môr, ond defnyddir platfformau eraill yn bell o’r arfordir lle mae’r dŵr yn dyfnach, a defnyddir peiriannau i gadw’r platfform yn ei safle cywir.[1]

Platfform drilio
Delwedd:Oil platform P-51 (Brazil).jpg, 00 3783 Oil and gas platform in Norway.jpg
Mathoffshore construction, oil rig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Platfform ar ei ffordd i lawr Afon Dyfrdwy

Mae platfformau’n amrywio yn ôl eu pwrpas a lleoliad. Mae rhai’n cynnwys lle i weithwyr i aros arnynt. Mae rhai yn gwahanu olew, nwy a dŵr.[2] Cynnig newydd yw cyfuno platfform olew â thyrbini gwynt, gan ddefnyddio pŵer y gwynt i brosesu’r olew[3] neu ail-bwrpasu hen blatfformau olew i gasglu pŵer y gwynt.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Ronalds, BF (2005). "Applicability ranges for offshore oil and gas production facilities". Marine Structures 18 (3): 251–263. doi:10.1016/j.marstruc.2005.06.001.
  2. Gwefan sciencedirect.com
  3. Gwefan sciencedirect.com
  4. Gwefan energyvoice