Pleidlais o ddiffyg hyder

Pleidlais o ddiffyg hyder yw dyfais a ddefnyddir fel arfer i fynegi ei diffyg ffydd yn y llywodraeth, cyngor neu gorff arall.

Yng nghyd-destun gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig ei nod yn y pen draw yw dymchwel y cabinet cyfredol. Yn gyntaf, cyflwynir cynnig o ddiffyg hyder, ac yn ail, cynhelir y bleidlais ei hun. Os bydd mwyafrif yr Aelodau Seneddol yn pleidleisio o blaid y cynnig, rhaid i'r cabinet ymddiswyddo a bydd etholiad yn dilyn hyn. Er bod pleidleisiau o'r fath wedi llwyddo yn hanes Prydain, mae'n ddigwyddiad anghyffredin.

Mewn gwledydd eraill, mae'n bosibl defnyddio pleidlais o ddiffyg hyder yn erbyn aelodau unigol o'r cabinet, ond nid yw hyn yn wir am y DU.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Termau Iaith Uwch". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-03-30.