Pokémon Ultra Sun ac Ultra Moon

Gemau fideo chwarae rôl yw Pokémon Ultra Sun a Pokémon Ultra Moon o 2017 y datblygwyd gan Game Freak, a gyhoeddwyd gan The Pokémon Company a Nintendo ar gyfer y Nintendo 3DS. Maen nhw'n rhan o seithfed genhedlaeth y gyfres o brif gemau Pokémon, ac maen nhw'n fersiynau dyrchafedig o'r gemau Pokémon Sun a Pokémon Moon o'r flwyddyn flaenorol. Nhw yw'r gemau Pokémon olaf ar gyfer y system Nintendo 3DS. Cafwyd eu cyhoeddi ym Mehefin 2017, a chafodd eu rhyddhau ar 17 Tachwedd 2017.

Yn yr un modd â gemau blaenorol, mae'r gemau'n dilyn taith hyfforddwr Pokémon ifanc, ac yn cymryd lle yn y rhanbarth Alola - wedi'i seilio ar Hawaii. Mae gwahaniaethau rhwng rhain a Sun a Moon yn cynnwys stori wahanol a nodweddion chwarae newydd, cymeriadau newydd, Pokémon a ffurfiau Pokémon newydd, gan gynnwys ffurfiau newydd o'r Pokémon chwedlonol Necrozma fel masgotiaid y fersiynau.

Cafodd y gemau dderbyniad cadarnhaol ar y cyfan, gyda beirniaid yn canmol y nodweddion a ychwanegwyd i Sun a Moon, er i rai ei feirniadu am i fwyafrif y stori fod yn rhy debyg. Erbyn diwedd 2018, roedd Ultra Sun ac Ultra Moon wedi gwerthu dros wyth miliwn o gopïau ledled y byd.

Y Gêm golygu

Yn debyg i gemau blaenorol yn y gyfres, mae Pokémon Ultra Sun ac Ultra Moon yn gemau fideo chwarae rôl gydag elfennau antur. Er eu bod wedi'u gosod mewn fersiwn arall o ranbarth Alola, mae'r fecaneg a'r graffeg yn aros yr un fath i raddau helaeth â Pokémon Sun a Moon, a'r prif wahaniaethau yw bod ei stori wedi'i haddasu bellach gan gynnwys y Sgwad Ultra Recon.[1] Mae'r dyluniadau cymeriad chwaraewr hefyd yn wahanol, er eu bod yn dal yn bosib addasu eu golwg.[2] Mae "Global Missions", lle mae chwaraewyr ledled y byd yn gweithio tuag at nod ar y cyd, hefyd yn dychwelyd.[3]

Nodweddion newydd golygu

Mae Ultra Sun ac Ultra Moon yn cyflwyno Bwystfilod Ultra (Ultra Beasts) newydd: Stakataka, Blacephalon, Poipole a'i esblygiad, Naganadel.[4] Yn ogystal, mae yna ffurfiau newydd ar gyfer y ffurfiau Pokémon chwedlonol Necrozma, a alwyd yn "Dusk Mane" a "Dawn Wings", a gyflawnir trwy amsugno'r Pokémon chwedlonol Solgaleo a Lunala, yn y drefn honno - mae'n debyg yn gysyniadol i Kyurem Du a Kyurem Gwyn o Black 2 a White 2. Hefyd, ychwanegwyd ffurf newydd o Lycanroc, Dusk Lycanroc. Gall chwaraewyr nawr deithio o amgylch rhanbarth Alola i gasglu Sticeri Totem, sy'n caniatáu i'r chwaraewr dderbyn Pokémon maint Totem. Ychwanegwyd tri gweithgaredd newydd: Mantine Surf, sy'n caniatáu i'r chwaraewr syrffio ar draws moroedd y rhanbarth - mae hefyd yn ffordd arall o ennill Pwyntiau Brwydr; Clwb Lluniau Alola, sy'n caniatáu i chwaraewyr dynnu lluniau o'u cymeriad gyda Pokémon; ac Ultra Warp Ride, sy'n caniatáu i'r chwaraewr deithio trwy amryw o Ultra Wormholes a dod ar draws Bwystfilod Ultra yn eu byd eu hunain - yn ogystal â dod o hyd i Pokémon chwedlonol o bob gêm yn y gyfres, hyd at dair gwaith, a thebygolrwydd uwch i Pokémon sgleiniog ymddangos.[5][6] Mae Symydiadau-Z newydd ar gael ar gyfer nifer o Pokémon, gan gynnwys Solgaleo, Lunala, Lycanroc, Mimikyu a Necrozma. Mae'r Pokédex Rotom nawr yn cynnwys Roto-Loto, sy'n caniatáu i'r chwaraewr ddefnyddio hwb, yn debyg i Bwerau-O o'r genhedlaeth flaenorol; a Phŵer Rotom-Z, sy'n caniatáu i chwaraewyr ddefnyddio hyd at ddau Symudiad-Z ym mhob brwydr.[7]

Lleoliad golygu

Mae'r gemau'n rhoi pwyslais ar y Pokémon chwedlonol Necrozma[8] sydd, yn y fersiynau hyn, yn cymryd lle Lusamine fel prif elyn y gemau. Yn yr un modd â Sun a Moon, mae'r gemau wedi'u gosod yn rhanbarth Alola sy'n seiliedig ar Hawaii. Er eu bod i raddau helaeth yr un peth, mae'r gemau newydd yn cynnwys adeiladau a lleoliadau ychwanegol o'u cymharu â'r gemau blaenorol.[9] Mae nifer o'r prif gymeriadau a ymddangosodd yn Sun a Moon, fel Lusamine a'i phlant, yn dychwelyd yn y gêm gyda newidiadau sylweddol.[10] Cyflwynir grŵp newydd, y Sgwad Ultra Recon, gyda chymeriadau gwahanol yn y ddwy gêm. Mae Ultra Megalopolis, dinas helaeth lle mae Necrozma wedi dwyn pob ffynonellau golau, wedi'i leoli yng Ngofod Ultra a gellir ei gyrraedd trwy'r Ultra Wormholes.[11]

Mae grŵp gelyn arall, Tîm Rainbow Rocket, yn cael sylw mewn stori ôl-gêm, ac yn cynnwys pob un o'r arweinwyr grŵp gelyn blaenorol a ymddangosodd trwy gydol y gyfres, o Giovanni o Pokémon Red, Blue a Yellow, i Lysandre o Pokémon X ac Y. Mae Pokémon chwedlonol o genedlaethau blaenorol hefyd yn ymddangos.[12]

Stori golygu

Yn debyg i Sun a Moon, mae cymeriad y chwaraewr yn un ar ddeg oed ac yn symud i Ynys Melemele yn Alola gyda'i mam. Yn ôl y traddodiad, mae gan y chwaraewr gystadleuwyr ar eu taith: Hau, bachgen cyfeillgar sy'n cyfeilio'r chwaraewr trwy gydol y stori, a Gladion, mab dieithr Lusamine. Yn ystod eu teithiau yn Alola yn dilyn heriau ynys traddodiadol y rhanbarth, maent yn cwblhau treialon sy'n cynnwys brwydrau gyda Pokémon pwerus o'r enw Pokémon Totem, ac yn dod ar draws nifer o grwpiau - un drygionus o'r enw Tîm Skull, o dan arweiniad dyn o'r enw Guzma; un mwy elusennol o'r enw'r Sefydliad Aether, o dan arweiniad menyw o'r enw Lusamine; ac un arall o'r enw Sgwad Ultra Recon, a ddaeth o ddimensiwn gwahanol, yr Ultra Megalopolis, lle mae Necrozma wedi dwyn ei olau. Mae llawer o'r stori'n ymdrin â nifer o Pokémon chwedlonol: Cosmog wedi'i llysenwi Nebby, sydd yn y pen draw yn esblygu i fod yn Solgaleo yn Ultra Sun, neu Lunala yn Ultra Moon; a Necrozma, sy'n ceisio cipio'r golau o Alola.

Yn ystod yr uchafbwynt, mae Lusamine yn defnyddio Nebby i greu porth i'r Ultra Megalopolis, lle mae hi a Guzma yn ceisio ymladd yn erbyn Necrozma ar gyfer y Sgwad Ultra Recon. Fodd bynnag, maent yn methu ac yn cael eu taflu yn ôl i'w dimensiwn yn nes ymlaen yn y stori, gyda Necrozma yn eu dilyn. Mae Necrozma yn ymladd yn erbyn Nebby, sydd bellach yn Solgaleo neu Lunala, ac yn ennill. Yna mae Necrozma yn amsugno'r Pokémon chwedlonol, yn troi i mewn i'w ffurf Dusk Mane neu Dawn Wings yn y fersiwn berthnasol, ac yn rhyddhau'r Bwystfilod Ultra i Alola cyn ymladd y chwaraewr. Ar ôl i'r chwaraewr ei drechu, mae Necrozma yn dianc i'r Ultra Megalopolis, gan fynd â golau'r byd gydag ef tra bod y chwaraewr, gyda chymorth y Sgwad Ultra Recon, yn teithio ar y naill ai Solgaleo neu Lunala (yn dibynnu ar fersiwn y gêm - y Pokémon sydd ddim ar clawr y gêm) trwy'r Gofod Ultra i gyrraedd yr Ultra Megalopolis. Yno, mae'r chwaraewr yn brwydro yn erbyn Necrozma, y tro hwn yn ei wir ffurf, Ultra Necrozma, am dynged y byd ac i achub Nebby. Mae'r chwaraewr yn ei drechu unwaith eto, gan ddod â golau yn ôl i Alola. Ar ôl cwblhau'r treialon, mae'r chwaraewr yn mynd ymlaen i frwydro yn erbyn Elite Four sydd newydd ei sefydlu, ac yna'ncuro Hau i ddod yn Bencampwr Cynghrair Pokémon go iawn cyntaf Alola.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Pokémon Ultra Sun & Moon Isn't A Sequel, Has A Different Main Story With Other Worlds To Visit - Siliconera". Siliconera (yn Saesneg). 2017-10-17. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-07. Cyrchwyd 2017-11-01.
  2. Hayes, Matthew (18 August 2017). "New 'Pokemon Ultra Sun', 'Moon' Trailer Teases Return Of A Beloved Lost Feature". WWG. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 September 2017. Cyrchwyd 21 September 2017.
  3. Tapsell, Chris (15 December 2017). "Pokémon Ultra Sun Ultra Moon Global Missions - rewards, how to register and Global Mission targets explained". Eurogamer (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 January 2018. Cyrchwyd 2 January 2018.
  4. Frank, Allegra (5 October 2017). "Pokémon Ultra Sun and Ultra Moon get dark — literally — in new trailer". Polygon. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 October 2017. Cyrchwyd 5 October 2017.
  5. Valens, Ana (22 September 2017). "Pokémon Ultra Sun and Ultra Moon trailer shows off new features". Dot Esports. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 October 2017. Cyrchwyd 23 September 2017.
  6. Hoffer, Christian. "Mewtwo is Catchable in Pokemon Ultra Sun and Ultra Moon, Other Details Revealed". WWG (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 October 2017. Cyrchwyd 30 October 2017.
  7. Knezevic, Kevin (12 October 2017). "Pokemon Ultra Sun And Moon Let You Use Two Z-Moves Per Battle". GameSpot. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 November 2017. Cyrchwyd 30 October 2017.
  8. Skrebels, Joe (18 August 2017). "Pokemon Ultra Sun and Ultra Moon Story Details Revealed". IGN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 September 2017. Cyrchwyd 22 September 2017.
  9. Hayes, Matthew (18 August 2017). "New 'Pokemon Ultra Sun', 'Moon' Trailer Teases Return Of A Beloved Lost Feature". WWG. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 September 2017. Cyrchwyd 21 September 2017.
  10. Frank, Allegra (18 August 2017). "Pokémon Ultra Sun and Ultra Moon's trailer shows off a very different Alola". Polygon. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 August 2017.
  11. Frank, Allegra (5 October 2017). "Pokémon Ultra Sun and Ultra Moon get dark — literally — in new trailer". Polygon. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 October 2017. Cyrchwyd 5 October 2017.Frank, Allegra (5 October 2017). "Pokémon Ultra Sun and Ultra Moon get dark — literally — in new trailer". Polygon. Archived from the original on 5 October 2017. Retrieved 5 October 2017.
  12. "Pokemon Ultra Sun/Ultra Moon details - Team Rainbow Rocket, Legendary Pokemon, Battle Agency, more - Nintendo Everything". Nintendo Everything. 2 November 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 November 2017. Cyrchwyd 2 November 2017.