Enw a roddir ar ddwy ddogfen bwysig yw Polisi Pennal, un ohonynt wedi ei llunio ym Mhennal yn ystod cyfarfod o gynulliad Owain Glyn Dŵr ym Mawrth 1406, a'r llall yn ffrwyth ymweliad llysgenhadaeth Owain â llys Brenin Ffrainc ym Mharis yn sgil cyfarfod Pennal.

Polisi Pennal
Enghraifft o'r canlynolllythyr Edit this on Wikidata
AwdurOwain Glyn Dŵr Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1406 Edit this on Wikidata
Llythyr Pennal 1406, Archifau Cenedlaethol Ffrainc
'Llofnod' Owain Glyn Dŵr ar waelod Llythyr Pennal 1406. Ystyr y geiriau Lladin Vester ad vota / Owynus princeps Wall[ie] yw 'Yr eiddoch yn ffyddlon, / Owain, Tywysog Cymru'
Cefn Caer, lle ysgrifennwyd Llythyr Pennal

Llythyr Owain Glyn Dŵr at Siarl VI o Ffrainc golygu

Ysgrifennwyd y llythyr hwn ym mhlas Cefn Caer ym Mhennal, yn ôl traddodiad, a'i arwyddo yn Eglwys Sant Pedr ad Vincula (Sant Pedr yn ei Gadwynau), Pennal, ger Machynlleth. Yn y llythyr hwn mae Owain yn gofyn i Siarl am gymorth i ymladd yn erbyn y Saeson. Ni chafod ateb. Mae'r llythyr, fodd bynnag, yn dangos gweledigaeth Owain: sonia am eglwys annibynnol yng Nghymru, gydag archesgob yn Nhyddewi. Mae'n crybwyll hefyd yr angen am ddwy brifysgol: y naill yn y Gogledd a'r llall yn y de. Yn eironig iawn ar y diwrnod hwn yn 1820 y Datgysylltwyd Yr Eglwys yng Nghymru.

Cytundeb Owain a Siarl VI o Ffrainc golygu

Yn ystod ei deyrnasiad, arwyddodd Siarl VI, brenin Ffrainc gytundeb gydag Owain Glyn Dŵr.

Llyfryddiaeth golygu

  • T. Mathews (gol.), Welsh Records in Paris (Caerfyrddin, 1910).
     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.