Polygon syml nad yw'n hunan-groesi ac nad yw'n bolygon ceugrwm yw polygon amgrwm. Un o'i nodweddion yw nad oes unrhyw ran o linell, rhwng dau bwynt, yn mynd y tu allan i'r polygon. Felly, mae'n bolygon lle mae ei du mewn yn amgrwm. Mae pob ongl fewnol yn llai na 180 gradd, neu'n hafal i hynny. Mewn polygon amgrwm confensiynol mae'r holl onglau mewnol yn llai na 180 gradd.[1]

Enghraifft o bolygon amgrwm: pentagon rheolaidd

Mae'r canlynol, hefyd, yn wir am bob Polygon amgrwm:

  • Mae pob ongl fewnol yn llai na, neu'n gyfwerth â 180 gradd.
  • Mae pob pwynt ar bob segment o linell, rhwng dau bwynt, y tu mewn neu ar ffin y polygon yn aros y tu mewn neu ar y ffin.
  • Mae'r polygon wedi'i gynnwys yn llwyr mewn hanner-plân caeedig a ddiffinnir gan bob un o'i ymylon.
  • Ar gyfer pob ymyl, mae'r pwyntiau tu mewn i gyd ar yr un ochr i'r llinell y mae'r ymyl yn ei ddiffinio.
  • Mae'r ongl ar bob fertig yn cynnwys pob fertig arall yn ei ymylon a thu fewn iddo.

Cyfeiriadau golygu