Cyfres deledu o'r Deyrnas Unedig oedd Pop Idol a ddarlledwyd ar ITV rhwng 2001 a 2003. Sioe dalentau oedd y rhaglen a oedd yn penderfynu ar ganwr neu gantores orau (neu'r 'pop idol') y Deyrnas Unedig. Seiliwyd y penderfyniad ar bleidleisiau'r cyhoedd.

Pop Idol
GenreTeledu realiti
Crëwyd ganSimon Fuller
Datblygwyd ganNigel Lythgoe
Cyflwynwyd ganAnt & Dec (ITV)
Kate Thornton (ITV2)
BeirniaidNicki Chapman
Simon Cowell
Neil Fox
Pete Waterman
Cyfansoddwr/wyrCathy Dennis
Julian Gingell
Barry Stone
GwladY Deyrnas Unedig
Iaith wreiddiolSaesneg
Nifer o gyfresi2
Nifer o benodau46
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd/wyr gweithredolSimon Fuller
Nigel Lythgoe
Richard Holloway
Ken Warwick
Lleoliad(au)Amryw ddinasoedd (clyweliadau)
Theatr Criterion (rhagbrofion theatr)
Stiwdios Teddington (rhagbrofion)
The Fountain Studios (ffeinal byw)
Hyd y rhaglen60-165mins (yn cynnwys hysbys)
Cwmni cynhyrchuThames Television
19 Entertainment
DosbarthwrFremantleMedia
Rhyddhau
Rhwydwaith gwreiddiolITV
Fformat y llun16:9
Darlledwyd yn wreiddiol6 Hydref 2001 (2001-10-06) – 20 Rhagfyr 2003 (2003-12-20)
Dolennau allanol
Gwefan

Roedd y gyfres yn gyfrifol am lansio gyrfa sawl artist: Will Young (enillydd y gyfres gyntaf), Gareth Gates, Darius Campbell (Danesh gynt), Jessica Garlick; a Mark Rhodes, Sam Nixon o'r ail gyfres, ymysg eraill.

Daeth y gyfres i ben yng ngwledydd Prydain wrth i Simon Cowell lansio fformat newydd The X Factor ond mae'r fformat 'Idol' wedi ei werthu i sawl gwlad o gwmpas y byd. Bu'n llwyddiannus iawn yn yr Unol Daleithiau - roedd 15 gyfres o American Idol rhwng 2002 a 2016.

Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato