Porthdinllaen

pentrefan yng Ngwynedd

Pentre bychan yng nghymuned Nefyn, Gwynedd, Cymru, yw Porth Dinllaen[1][2] neu Porthdinllaen ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif agos at Forfa Nefyn ym Mhenrhyn Llŷn. Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gyfrifol amdano er 1994. Gweler oddi yno olygfeydd o'r Eifl ac Eryri. Mae'r dafarn "Tŷ Coch" yn ganolfan i'r pentre. Mae'r enw i'w ganfod gyntaf yn 1263: Portdinllaen. Porth ydy porthladd, din ydy'r gaer ar y pentir a elwir Trwyn Porth Dinllaen ac ystyr "llaen" ydy "Llŷn".

Porth Dinllaen
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9429°N 4.568°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH276416 Edit this on Wikidata
Cod postLL53 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Rhaid i ymwelwyr gerdded ato dros y traeth o Forfa Nefyn, neu dros dir y clwb golff ar y pentir, gan fod ceir wedi'u gwahardd.

Mae'r pentrefan yn hen borthladd pysgota, sydd ar y pen gorllewinol o'r bae 1.25 milltir llydan, a chyda 100 erw o angorfeydd diogel. Roedd y lle'n fwrlwm o longau sgota mor diweddar â'r 19g.[3] Fe'i hawgrymyd fel porth i longau i'r Iwerddon yn gynnar y 19g, ond dewiswyd Caergybi yn ei le.

Porthdinllaen yn Ebrill 2011

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 23 Ionawr 2022
  3. Dictionary of Place-names of Wales (Gwasg Gomer)

Dolen allanol golygu


Oriel golygu