Porthmon

galwedigaeth hanesyddol

Defnyddir y gair Porthmon am rywun sy'n gyrru anifeiliaid dros bellter hir i'w gwerthu. Roedd y porthmyn yn elfen bwysig iawn yn economi Cymru yn y 18g yn arbennig. Gwartheg oedd yn cael eu gyrru gan amlaf, ond byddai defaid a hyd yn oed gwyddau yn cael eu gyrru.

Gyrwyr, neu borthmyn oddutu 1885 yn Nhrefaldwyn
Papur £2 Banc y Ddafad Ddu

Ceir cofnod o borthmyn yn gyrru gwartheg o Gymru i Loegr i'w gwerthu cyn gynhared a'r 14g, ond cyrhaeddodd y fasnach yma ei huchafbwynt yn ystod y 18g. Llundain oedd y gyrchfan fwyaf poblogaidd i'r porthmyn Cymreig, a datblygodd Smithfield ar gyrion y ddinas i fod y farchnad anifeiliaid fwyaf yn y byd.

Byddai'r porthmyn yn cario symiau sylweddol o arian ar eu taith yn ôl wedi gwerthu'r anifeiliad, ac yn aml roedd pobl eraill oedd angen gyrru arian i rywle arall yn eu roi i'r porthmyn i'w trosglwyddo. Roedd perygl oddi wrth ladron pen-ffordd, a bu hyn yn symbyliad i ddatblygiad nifer i fanciau. Sefydlwyd Banc yr Eidion Du yn Llanymddyfri gan borthmon o'r enw David Jones yn 1799. Parhaodd y banc yma nes i Fanc Lloyds ei brynu yn 1909. Sefydlwyd Banc y Ddafad Ddu gan borthmyn defaid Tregaron ac Aberystwyth yn gynnar yn y 19g.

Diflannodd y porthmyn yn raddol yn ystod y 19g, oherwydd datblygiad y rheilffyrdd a rhesymau eraill. Yr unig olion bellach yw'r ffyrdd porthmyn, yn enwedig ar dir uchel mewn gwahanol rannau o Gymru.

Ffyrdd y porthmyn Cymreig golygu

Roedd rhwydwaith o lwybrau yn cael eu defnyddio gan y porthmyn yng Nghymru i gael yr eidionau i'r farchnad. Er mwyn osgoi talu tollau ar y ffyrdd tyrpeg byddai'r porthmyn yn dilyn hen lwybrau dros wlad. Pedolid y gwartheg cyn cychwyn a byddai rhaid eu pedoli eto sawl gwaith cyn diwedd y daith. Tua ugain milltir oedd y pellter arferol mewn diwrnod i'r gyrroedd.

Roedd un o'r llwybrau yn cychwyn ym Môn. Byddai'r gwartheg a gesglid o'r ffermydd ar yr ynys gan y porthmyn yn cael eu gyrru i Borthaethwy, a chyn codi'r pontydd presennol byddai rhaid iddynt nofio'r Fenai gyda gwŷr mewn cychod i ofalu amdanynt. Yng nghyffiniau Bangor deuai porthmyn eraill â gwartheg o Arfon a rhannau o Lŷn. Aent a'r eidionau i fyny mewn gyrroedd mawr trwy Nant Ffrancon (ar yr hen lôn sydd yno ar ochr orllewinol y cwm o hyd), i Gapel Curig, ac yna ymlaen i Lanrwst, dros Fynydd Hiraethog i Abergele (fu'n ganolfan bwysig i'r porthmyn), i fyny Dyffryn Clwyd ac yna i Landegla. Mae Llandegla yn bentref bychan tawel heddiw, ond bu'n fan cyfarfod pwysig ar lwybrau porthmyn y gogledd. O Landegla gyrrid y gwartheg naill ai i Langollen (llecyn pwysig arall lle ymunai gyrroedd o Feirion a'r cylch) neu i Wrecsam, ac oddi yno i Loegr ac i lawr am Lundain, gan amlaf. Yng Ngheredigion, roedd llwybrau o Dregaron a Llanddewi Brefi tros y mynydd i Abergwesyn. Roedd yna lwybrau tebyg o bob rhan o orllewin Cymru, gyda'r rhai pwysicaf yn cychwyn o Feirionnydd a Sir Gâr.

Mae Tafarn y Porthmyn (Drovers House), yn Stockbridge, Hampshire, ym mherfeddion Lloegr, a'r geiriau GWAIR-TYMHERUS-PORFA-FLASUS-CWRW-DA-A- GWAL-CYSURUS[1]

Gweler hefyd golygu

Llyfryddiaeth golygu

  • R. T. Jenkins, Y Ffordd yng Nghymru (Wrecsam: Hughes a'i Fab, 1932), pennod XI: "Y Porthmyn"
  • Shirley Toulson, The Drovers' Roads of Wales (Wildwood House, 1977)
  • Shirley Toulson, The Drovers, Shire Albums 45 (Shire Publications, 1980)
  • Twm Elias, Y porthmyn Cymreig, Cyfres Llyfrau Llafar Gwlad 3 (Gwasg Carreg Gwalch, 1987)
  • Emlyn Richards, Porthmyn Môn (Gwasg Pantycelyn, 1998)
  • Richard Moore-Colyer, Welsh Cattle Drovers (Landmark, 2002)

Cyfeiriadau golygu

  1. Gweler ffoto Paul Williams yn Bwletin Llên Natur 33 (Tachwedd 2010)