Paentiad, ffotograff, cerflun, neu gynrychioliad artistig arall o berson, ble mae'r wyneb a'i olwg yn amlwg, yw portread. Y bwriad yw arddangos tebygrwydd, personoliaeth, a hyd yn oed tymer y person. Am y rheswm hwn, nid ciplun yw portread ffotograffig fel arfer, ond delwedd o berson hunanfeddiannol mewn safle llonydd. Mae portread yn aml yn dangos person yn edrych yn syth at yr arlunydd neu ffotograffydd, er mwyn llwyddo i gysylltu'r testun a'r sawl sy'n ei astudio.

Portread o'r ysgolfeistres a'r llenor Sarah Jane Rees (Cranogwen, 1839-1916) gan John Thomas

Portreadau enwog golygu