Athroniaeth sy'n canolbwyntio ar wybodaeth a posteriori a phrofiad ac yn gwrthod tybiaethau a priori a metaffiseg yw positifiaeth.[1][2]

Arloesoedd Auguste Comte yr ysgol feddwl hon â'r nod o drin y gwyddorau cymdeithas gyda'r un fethodoleg â'r gwyddorau naturiol. Gan efelychu'r dull gwyddonol defnyddir dulliau mesurol, megis casglu data a'u dadansoddi, i brofi hypothesis. Yn ôl y beirniaid, golwg gul ac arwynebol ar ein byd a gynigir gan bositifiaeth. Honnir bod angen ymchwil ansoddol er mwyn deall achosion ymddygiad cymdeithasol. Yn gyffredinol, cytunir taw man cychwyn defnyddiol yw positifiaeth i gydnabod gogwyddion a phatrymau bras ac awgrymu'r cwestiynau ansoddol sy'n rhaid eu gofyn er mwyn dehongli'r pwnc yn drwyadl.

Cyfeiriadau golygu

  1.  positifiaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 9 Ionawr 2017.
  2. (Saesneg) positivism. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Ionawr 2017.
  Eginyn erthygl sydd uchod am athroniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.