Dinas hanesyddol yng ngogledd-ddwyrain Bwlgaria yw Preslav (Bwlgareg Преслав). Prifddinas Teyrnas Gyntaf Bwlgaria oedd hi o 893 tan tua 972. Lleolir adfeilion y ddinas 20 km i'r de-orllewin o'r brifddinas ranbarthol Shumen.

Preslav
Mathtref weinyddol ddinesig, dinas ym Mwlgaria Edit this on Wikidata
Poblogaeth8,060, 8,822 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirArdal Ddinesig Dinesig Veliki Preslav Edit this on Wikidata
GwladBwlgaria Edit this on Wikidata
Arwynebedd76.76 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr92 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.160509°N 26.811977°E Edit this on Wikidata
Cod post9850 Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Preslav ym Mwlgaria
Adfeilion y ddinas a'r mur caerog (wedi'i ailadeiladu)

Datblygwyd y ddinas gyntaf fel safle milwrol â phlas caerog gan Khan Omurtag yn hanner cyntaf y 9g. Symudwyd y brifddinas yno yn 893 gan Tsar Simeon Fawr ar ôl gwrthryfel paganaidd yn y brifddinas flaenorol Pliska, 3 km i ffwrdd. Ffynnodd am gyfnod fel canolfan diwylliant llenyddol Slafonaidd, fel Ohrid yn y gorllewin. Cafodd y ddinas ei hysbeilio a'i llosgi i lawr gan luoedd Ymerodraeth Byzantium o dan yr Ymerawdwr Ioan I Tzimiskes yn 971. Parhaodd ei diwygiad ar ôl hynny tan ymosodiad dan ddwylo'r Tatariaid yn 1270, pryd gadawodd y rhelyw o'r trigolion y ddinas. Heddiw mae tref fechan newydd (Veliki Preslav) yn sefyll 2 km i'r gogledd o'r ddinas hanesyddol. Mae ganddi boblogaeth o dua 10,000 o drigolion.


Prifddinasoedd hanesyddol Bwlgaria Baner Bwlgaria
Pliska (681-893) | Preslav (893-972) | Skopje (972-992) | Ohrid (992-1018) | Veliko Tarnovo (1185-1393, 1878-1879) | Sofia (ers 1879)