Prifysgol Abertawe

prifysgol yn Abertawe

Prifysgol yn ninas Abertawe, Cymru ydy Prifysgol Abertawe (Saesneg: Swansea University). Eisoes yn aelod o Brifysgol Cymru ers ei siarter swyddogol ym 1920, mae bellach yn gweithredu dan bwerau, a'i henw, ei hun wrth i Brifysgol Cymru chwarae llai o rôl yn rhediad ei sefydliadau, felly'n ddisodli ei henw diwethaf Prifysgol Cymru, Abertawe (University of Wales, Swansea).

Prifysgol Abertawe
Mathprifysgol ymchwil gyhoeddus, cyhoeddwr mynediad agored Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1920 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbertawe Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6097°N 3.9806°W Edit this on Wikidata
Map

Dyma'r trydydd prifysgol fwyaf yng Nghymru o ran y nifer o fyfyrwyr. Lleolir campws y brifysgol ar yr arfordir ar ochr ogleddol Bae Abertawe, i'r dwyrain o benrhyn Gwyr. Gerllaw, mae Parc Singleton ac mae ychydig y tu allan i ganol y ddinas.

Ceir elfen gref o gystadleuaeth rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd, ac mae tîmoedd chwaraeon y ddau brifysgol yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn gornest flynyddol. Caiff y cystadlaethau eu hystyried fel y fersiwn Cymreig o ddigwyddiad Rhydgrawnt, a chaiff ei alw'n y Varsity Cymreig.

Rheolaeth a strwythur golygu

Derbyniodd Abertawe ei siarter brenhinol ym 1920 ac fel nifer o brifysgolion caiff ei reoli gan ei gyfansoddiad sydd wedi ei nodi yn ei stadudau a'i siarter. Corff llywodraethol Prifysgol Abertawe yw'r Cyngor, sy'n cael ei gefnogi gan y Senedd a'r Cwrt.

  • Mae'r Cyngor yn cynnwys 29 o aelodau gan gynnwys y Canghellor, Dirprwy-gangellorion, Is-ganghellor, Trysorydd, Dirprwy-is-gangellorion, aelodau staff a myfyrwyr, cynrychiolaeth o gyngor y ddinas a mwyafrif o aelodau lleyg. Mae'r cyngor yn gyfrifol am holl weithgareddau'r brifysgol ac mae iddo strwythur pwyllgor cadarn i ddosrannu pŵer a dyletswyddau.
  • Mae'r Senedd yn cynnwys 200 o aelodau, gyda'r mwyafrif ohonynt yn ysgolheigion er bod cynrychiolwyr o Undeb y Myfyrwyr a'r Undeb Athletau yno hefyd. Cadeirir y senedd gan yr Is-ganghellor, sy'n bennaeth ar y brifysgol yn academaidd ac yn weinyddol. Y senedd yw prif gorff academiadd y brifysgol sy'n gyfrifol am addysgu ac ymchwil.
  • Mae'r Cwrt yn cynnwys dros 300 o aelodau, sy'n cynrychioli hapddalwyr yn y brifysgol a gallant ddod o sefydliadau lleol a chenedlaethol. Cyfarfydda'r cwrt yn flynyddol i drafod adroddiad blynyddol y brifysgol a'i chyfrifon ariannol, yn ogystal â thrafod materion cyfoes ym maes addysg bellach.

Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg golygu

Mae Academi Hywel Teifi yn gyfrifol am ddarparu cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe; fe'i sefydlwyd yn 2010 ac fe'i henwyd er cof am yr Athro Hywel Teifi Edwards a fu'n dal Cadair y Gymraeg yno. Mae'r Academi'n cyd-weithio'n agos gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ehangu darpariaeth y brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyn-fyfyrwyr enwog golygu

Gweler hefyd y categori Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe
 
Hen Logo Prifysgol Cymru Abertawe

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu