Prifysgol Cornell

Prifysgol breifat sydd yn derbyn arian cyhoeddus gan dalaith Efrog Newydd, UDA, yw Prifysgol Cornell (Saesneg: Cornell University) ac un o sefydliadau'r Ivy League. Lleolir ar gampws 19 km2 yn Ithaca, Efrog Newydd, ger Llyn Cayuga.

Prifysgol Cornell
Mathprifysgol breifat, prifysgol grant tir, sun grant institution, prifysgol ymchwil, sefydliad addysgol preifat nid-am-elw Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlEzra Cornell Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1865 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirIthaca, Efrog Newydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Cyfesurynnau42.4472°N 76.4831°W Edit this on Wikidata
Cod post14853 Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganEzra Cornell, Andrew Dickson White Edit this on Wikidata

Sefydlwyd y brifysgol ar grant tir dan Ddeddf Morrill 1862, gyda gwaddol gan Ezra Cornell, sefydlydd y Western Union Telegraph Company, a dan arweiniad Andrew Dickson White, y llywydd cyntaf. Rhoddwyd siarter iddi yn 1865, ac agorwyd yn 1868.

Ers ei blynyddoedd cynnar, mae astudiaethau amaethyddol wedi denu nifer o fyfyrwyr i'r brifysgol. Mae nifer fawr o fyfyrwyr hefyd yn astudio'r gwyddorau biolegol, rheolaeth busnes, peirianneg, a gwyddorau cymdeithas.

Cyn-fyfyrwyr golygu

Cyfeiriadau golygu