Prifysgol Metropolitan Caerdydd

prifysgol yng Nghaerdydd

Prifysgol fodern yng Nghaerdydd, Cymru yw Prifysgol Metropolitan Caerdydd (Saesneg: Cardiff Metropolitan University) (adnabuwyd yn flaenorol fel UWIC). Mae'n gweithredu o ddwy campws yng Nghaerdydd: Llandaf ar Rodfa'r Gorllewin, Cyncoed. Mae'n gwasanaethu dros 12,000 o fyfyrwyr. Adnabuwyd fel Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd. Cadarnhawyd ar 11 Hydref 2011 y byddai'r sefydliad yn newid ei enw i Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn unol â'r ymgais llwyddiannus i'r Cyfrin Gyngor am newid enw a gyflwynwyd y llynedd. Daeth yr enw i rym ar 1 Tachwedd 2011.[2]

Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Arwyddair Gorau meddiant gwybodaeth
Sefydlwyd 1865 (fel Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd)
1976 (cyfunwyd â thri choleg arall i sefydlu Athrofa Addysg Uwch Morgannwg)
Math Cyhoeddus
Canghellor Y Tywysog Siarl, Tywysog Cymru
Is-ganghellor Yr athro Antony J Chapman[1]
Myfyrwyr 12,000
Myfyrwyr eraill 74
Lleoliad Caerdydd, Baner Cymru Cymru
Campws Trefol
Lliwiau
                       
Tadogaethau Cynghrair Brifysgolion
Cymdeithas Prifysgolion y Gymanwlad
Gwefan www.cardiffmet.ac.uk/cymraeg/Pages/default.aspx

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnal cyrsiau mewn celf a dylunio, peirianneg, y gwyddorau, busnes a thechnoleg gwybodaeth, hyfforddiant athrawon, dyniaethau, gwyddorau cymdeithas, iechyd, chwaraeon, twristiaeth a hamdden. Maent yn gwasanaethu israddedigion ac ôl-raddedigion yn llawn ac yn rhan amser, yn ogystal â chynnig nifer o gyfleodd ymchwil.

Hanes golygu

Gwreiddiau golygu

Agorwyd Ysgol Gelf yn hen adeilad y Llyfrgell Rydd, Heol Eglwys Fair ym 1865. Yn 1900, symudodd i'r Adeiladau Technegol ym Mhlas Dumfries. Symudodd unwaith eto ym 1949, i The Friary.

Tua 1940, agorwyd Coleg Technoleg Bwyd a Masnach Caerdydd ar Heol y Crwys.

Agorwyd Coleg Hyfforddiant Caerdydd ym Mharc y Mynydd Bychan ym 1950, ac agorwyd Coleg Technegol Llandaf ar Rodfa'r Gorllewin ym 1954, ar gyfer myfyrwyr y gwyddorau iechyd, dylunio a pheirianneg. Symudodd y coleg hwn i gampws yng Nghyncoed yn 1962, campws sydd erbyn hyn yn gartref i Ysgolion Addysg a Chwaraeon UWIC.

Ym 1965, symudodd y coleg celf, a adnabuwyd fel Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd erbyn hynny, i gampws newydd yn Howard Gardens, lle mae adran celf UWIC yn dal i fod heddiw.

Symudodd y Coleg Technoleg Bwyd a Masnach i gampws newydd ar Rodfa Caer Colun ym 1966, campws a ddaeth yn gartref i fyfyrwyr busnes, hamdden, lletygarwch, twristiaeth a bwyd. Mae'r campws yn parhau i fod yn gartref i'r myfyrwyr rhain hyd heddiw.

Uniad golygu

Unodd y pedwar coleg ym 1976, gan ffurfio Athrofa Addysg Uwch De Morgannwg. Newidiwyd yr enw ym 1990, i Athrofa Addysg Uwch Caerdydd, mewn paratoad ar gyfer ei gorfforiad.

Ym 1992, ymunodd yr athrofa â Phrifysgol Cymru fel corff annibynnol, nad oedd bellach o dan reolaeth y Cyngor Sir.

Enillodd Bwerau Gwobrwyo Graddau Dysgu gan y Cyfrin Gyngor ym 1993. Ym mis Awst, enillont yr hawl i wobrwyo eu graddau eu hunain, ond dewisont yn hytrach i gyfnerthu eu cysylltiadau â Phrifysgol Cymru. Derbyniodd yr athrofa statws Coleg Prifysgol o fewn Prifysgol Cymru ym 1996 ac ailenwyd i Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd.

Agorodd y Ganolfan Athletau Dan do Cenedlaethol ar gampws Cyncoed ym 1999.

Yn 2003, daeth yr athrofa'n rhan o Brifysgol Cymru.

Lansiwyd Consortiwm FE2HE-UWIC yn 2004, sef partneriaeth addysg bellach ac addysg uwch ar y cyd gyda cholegau y Barri, Pen-y-bont ar Ogwr, Ystrad Mynach a Choleg Glan Hafren, Caerdydd; ymunodd Coleg Catholig Dewi Sant, Caerdydd, gyda'r consortiwm yn 2009.

Yn 2006, daeth Ysgol Fasnach Llundain yn Goleg Cydymaith UWIC.

Gosododd UWIC record pan wobrwywyd hi gyda'r Marc Siarter (am ragoriaeth yng ngwasanaethau cyhoeddus) am y pumed tro, a chydnabuwyd yn ogystal gan yr Asiantaeth Yswiriant Safon am safon uchel eu gweithrediad academaidd.

O dan ei enw blaenorol (Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd), roedd y brifysgol yn cael ei raddau wedi eu gwobrwyo gan Brifysgol Caerdydd. Fodd bynnag, fe wnaeth y brifysgol ddod a'i gysylltiad ffurfiol gyda Phrifysgol Cymru i ben, a fe'i hail-enwyd yn Brifysgol Fetropolitan Caerdydd yn Nhachwedd 2011.[3] Mi fydd y brifysgol nawr yn gwobrwyo eu holl raddau o dan ei enw ei hun.

Datblygiadau newydd golygu

Yn 2009 lansiwyd yr UWIC Foundation, a fydd yn cael ei ariannu gan gyfraniadau elusennol, er mwyn cynyddu safon uchel dysgu ac ymchwil. Agorodd Canolfan Diwydiant Bwyd yn Llandaf, gyda champws aml-bwrpas yn agor yng Nghyncoed yng Nghyncoed yn yr Hydref, a gostiodd £4.9 miliwn.

Erbyn hyn mae gan UWIC dros 12,000 o fyfyrwyr o dros 128 gwlad yn fyd eang, gan gynnwys nifer o fyfyrwyr sy'n astudio dramor, megis yn Llundain, Kuala Lumpur, Dhaka a Singapôr. Gyda throsiant blynyddol o dros £75 miliwn, mae adeiladu ar waith ar adeilad newydd £20 miliwn a fydd yn gartref newydd i Ysgol Rheolaeth Caerdydd yn Llandaf, a bwriadir sefydlu canolfannau dysgu newydd dramor yn Awstralia, Bwlgaria, Morocco a'r Aifft.

Mae UWIC yn falch o allu cynnig cyfleusterau modern o'r safon uchaf, mae buddsoddiad sylweddol wedi bod yn ystod y blynyddoedd diweddar; gwariwyd £50 miliwn yn datblygu'r ystadau yn unig.[4]

Cefnogir y datblygiad sydd wedi cael ei grybwyll gan Weinyddiaeth Addysg Singapôr a'r Bwrdd Datblygu Economaidd, sef i ddatblygu adeilad gyda brand UWIC ar gampws EASB yn 2009, a fydd yn cael ei adnabod fel Campws Asia, UWIC. Mae UWIC yn cynnig graddau wedi eu hetholfreinio mewn amryw o bynciau gan gynnwys cyfrifeg, Rheolaeth Lletygarwch Rhyngwladol a gradd Meistr Gweinyddiaeth Busnes, dechreusant hefyd gynnig Baglor y Celfyddydau mewn Astudiaethau Rheolaeth a Busnes ar ddechrau tymor academaidd 2009.

Chwaraeon golygu

Caiff UWIC ei gysidro'n fawr am eu rhagoriaeth ym maes chwaraeon, mae Rholyn Anrhydedd UWIC yn cynnwys dros 300 o berfformwyr rhyngwladol mewn 30 o wahanol chwaraeon, gan gynnwys:

  • 7 Capten Tîm Rygbi Cenedlaethol Cymru
  • 15 aelod o'r Llewod Prydeinig
  • 7 Hyfforddwr rygbi cenedlaethol
  • 25 chwaraewr pêl-rwyd cenedlaethol
  • Hyfforddwyr gymnasteg rhyngwladol
  • Cyfarwyddwyr technegol gymnasteg, nofio a chriced
  • Hyfforddwr athletau, pêl-fasged, a chodi pwysau cenedlaethol
  • 11 chwaraewr sboncen rhyngwladol

Timau chwaraeon golygu

Cyn-fyfyrwyr o nod golygu

Celfyddydau a ffasiwn

Teledu, radio a cherddoriaeth

Cyllid

  • Vikas Jain

Chwaraeon

Cyfeiriadau golygu

  1.  Professor Antony J Chapman - UWIC Vice-Chancellor & Principal. UWIC. Adalwyd ar 12 Gorffennaf 2007.
  2. Erthygl Golwg360 sy'n sôn am newid enw UWIC
  3. "UWIC Name Change". .cardiffmet.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-21. Cyrchwyd 2013-07-26.
  4.  Building an even better future…. UWIC. Adalwyd ar 21 Ionawr 2010.
  5.  Athlete Profile - Claire Wright. Adalwyd ar 19 Gorffennaf 2008.

Dolenni allanol golygu