Prifysgol Genedlaethol Mongolia

Prifysgol Genedlaethol Mongolia (Mongoleg: Монгол Улсын Их Сургууль, Mongol Ulsyn Ikh Surguul) yw'r brifysgol hynaf ym Mongolia. Fe'i lleolir yn Ulan Bator, prifddinas y wlad, lle ceir 12 ysgol ac adran, gyda changhennau yn aimagau (ardaloedd) Zavkhan ac Orkhon ac yn ninas Khovd. Yr arlywydd presennol yw'r Athro Suren Davaa, Ph.D.

Prifysgol Genedlaethol Mongolia
Mathprifysgol, cyhoeddwr mynediad agored Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1942 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirUlan Bator Edit this on Wikidata
GwladBaner Mongolia Mongolia
Cyfesurynnau47.9228°N 106.9192°E, 47.9232°N 106.9218°E Edit this on Wikidata
Map

Sefydlwyd y brifysgol yn 1942. Yn 2006 roedd 12,000 o fyfyrwyr yno, yn cynnwys tua 2000 o raddedigion. Mae'r brifysgol yn cynnig 80 rhaglen gradd ac ôl-radd gyda'r mwyafrif llethol o'r cyrsiau ar gael trwy gyfrwng y Fongoleg.

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Fongolia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato