Prifysgol Indiana

Prifysgol gyhoeddus yn nhalaith Indiana, Unol Daleithiau America, yw Prifysgol Indiana (Saesneg: Indiana University) sydd yn cynnwys y prif gampws yn Bloomington a safleoedd eraill yn Gary (campws y Gogledd-orllewin), South Bend, Kokomo, New Albany (De-ddwyrain), a Richmond (Dwyrain). Yn ogystal, cynigir graddau academaidd gan Brifysgol Indiana gan golegau mewn cydweithrediad â Phrifysgol Purdue yn Fort Wayne, Indianapolis, a Columbus.

Prifysgol Indiana
Mathsystem o brifysgolion taleithiol, sefydliad addysgiadol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1820 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirIndiana Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Cyfesurynnau39.1667°N 86.5°W Edit this on Wikidata
Map

Pasiwyd deddf gan Gynulliad Cyffredinol Indiana ym 1820 i sefydlu Coleg Diwinyddol Indiana, a agorai ym 1824. Fe'i ail-enwyd yn Goleg Indiana ym 1828, a chafodd ei dyrchafu'n brifysgol ym 1838.[1] Derbyniwyd merched am y tro cyntaf ym 1867, ac ers hynny bu pob cyfadran yn agored i fyfyrwyr o'r ddau ryw.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Indiana University. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Rhagfyr 2021.