Prifysgol Ljubljana

Prifysgol hynaf Slofenia yw Prifysgol Ljubljana (Slofeneg Univerza v Ljubljani). Gyda 56,000 o fyfyrwyr cofrestredig, hon yw prifysgol fwya'r wlad, ac un o brifysgolion mwyaf Ewrop hefyd. Fe'i sefydlwyd gyntaf yng nghyfnod byr rheolaeth Ffrengig Napoleon yn 1810, ond fe'i diddymwyd yn fuan ar ôl i'r Awstriaid ddychwelyd i rym. Ailsefydlwyd y brifysgol yn 1919 gyda phum cyfadran (y gyfraith, athroniaeth, technoleg, diwinyddiaeth a meddygaeth. Dyluniwyd prif adeilad y brifysgol, sy'n sefyll yng nghanol Ljubljana ar Kongresni trg, gan Jan Vladimir Hrásky yn 1902, er iddo gael ei ddiwygio gan y pensaer Tsieceg Josip Hudetz yn ddiweddarach. Tan 1978, pryd sefydlwyd prifysgol newydd yn Maribor, hon oedd unig brifysgol Slofenia.

Prifysgol Ljubljana
Mathprifysgol gyhoeddus, academic publisher Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAlecsander I, brenin Iwgoslafia, Edvard Kardelj Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1919 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLjubljana Edit this on Wikidata
GwladBaner Slofenia Slofenia
Cyfesurynnau46.0489°N 14.5039°E Edit this on Wikidata
Map
Prif adeilad Prifysgol Ljubljana, Rektorat Univerze

Dolen allanol golygu