Prifysgol Plymouth

Prifysgol ym Mhlymouth a phrifysgol fwyaf yn ne-orllewin Lloegr ydy Prifysgol Plymouth (Saesneg: University of Plymouth), gyda dros 30,000 o fyfyrwyr a'r pumed mwyaf ym Mhrydain yn ôl nifer y myfyrwyr.[4] Mae bron i 3,000 o aelodau staff gan ei gwneud yn un o gyflogwyr mwyaf de-orllewin Lloegr, ac mae ganddi incwm blynyddol o tua £160 miliwn.

Prifysgol Plymouth
Mathprifysgol, sefydliad addysg uwch, sefydliad addysgol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1992 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadPlymouth Edit this on Wikidata
SirPlymouth, Dinas Plymouth Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau50.3741°N 4.1385°W Edit this on Wikidata
Cod postPL4 8AA Edit this on Wikidata
Map
Prifysgol Plymouth
University of Plymouth
Adeilad Ysgol Gelf Prifysgol Plymouth
Sefydlwyd 1992, o'r Polytechnic South West
Math Cyhoeddus
Is-ganghellor Yr Athro Wendy Purcell[1]
Staff 3,000
Myfyrwyr 30,540[2]
Israddedigion 24,490[2]
Ôlraddedigion 6,050[2]
Lleoliad Plymouth, Baner Lloegr Lloegr
Campws Trefol
Lliwiau Terracotta, glas tywyll a du[3]
Tadogaethau Alliance of Non-Aligned Universities
Association of Commonwealth Universities
Gwefan http://www.plymouth.ac.uk/

Y brifysgol golygu

Mae Prifysgol Plymouth yn brifysgol fodern, sydd wedi cael ei ddatblygu'n sylweddol, gan gynnwys nifer o adeiladau newydd. Ar sail canlyniadau 2008, mae Plymouth wedi neidio 15 safle yn y restr y "Research Assesment Excercise" i ymuno â'r 50 prifysgol orau ym Mhrydain, hwy sydd wedi gwella fwyaf ym maes perfformiad ymchwil ers yr RAE diwethaf yn 2001.[5] Neidiodd y brifysgol hefyd 33 safle, yn nhablau cynghrair The Guardian' a gyhoeddwyd ym mis Mai 2006, o 73ydd safle yn 2005 i 40fed safle yn 2006. Cododd bum safle i 35ed yng gyhoeddiad 2007;[6] Mae tablau The Times, yn wahanol i'r Guardian yn cynnwys perfformiadau ymchwil wrth gyfrifo'r safleoedd, ac mae'n nhw'n rhestru Plymouth yn 55ed,[7] ac yn ei alw'n un o'r ddwy brifysgol fodern orau ym Mhrydain.[8] Disgrifiai'r Guardian y brifysgol fel un sy'n "meddwl ymlaen", yn ogystal â gosod Plymouth yn y "20 uchaf" ar gyfer deg pwnc yn cynnwys gwaith cymdeithasol (5ed), pensaernïaeth, celfyddyd gain, a drama. Ynghyd â'r ailstrwythuro presennol, targed y brifysgol yw i ddod yn "Y brifysgol menter" ("The enterprise university"),[9] peth colynnol mewn dinas a adnabyddir fel prifddinas menter de-orllewin Lloegr.[10]

Yr athro Roland Levinsky oedd is-ganghellor y brifysgol hyd ei farwolaeth ar 1 Ionawr 2007, pan gerddodd mewn i geblau trydanol byw a oedd wedi disgyn mewn storm.[11] Cymerodd yr athro Mark Cleary ei swydd dros-dro (ef yw is-ganghellor Prifysgol Bradford erbyn hyn),[12] ac olynwyd ef gan yr athro Steve Newstead. Ar 1 Rhagfyr 2007, daeth Wendy Purcell yn is-ganghellor.

Hanes golygu

Coleg Polytechnic oedd y brifysgol yn wreiddiol, gyda Polytechnic Plymouth, Coleg Rolle a Choleg Seale-Hayne yn rhan ohoni. Ailenwyd yn "Polytechnic South West" ym 1989, gan barhau gyda'r enw hwnnw hyd iddynt ennill statws prifysgol ym 1992 ynghyd â cholegau polytechnic eraill. Daeth Ysgol Astudiaethau Morwrol Plymouth School a Choleg Tavistock yn rhan ohoni yr un adeg.

 
Adeilad Roland Levinsky.
 
Gwaith adeiladu'r campws celf newydd ar Rowe Street.

Yng nghyfnod yr is-gangellor ar y pryd, Roland Levinsky, dechreuodd y brifysgol weithredu polisi o ganoli ei weithgareddau ar gampusau ym Mhlymouth. Symudodd y Gyfadran Celfyddydau o Gaerwysg i adeilad celf newydd a enwyd ar ôl Roland Levinsky, ym mis Awst 2007, gan ddod a phynciau'n cynnwys Celfyddyd Gain, Hanes Celf, Ffotograffeg, a Dylunio 3-D Design i Blymouth. Yr un adeg, symudodd y Gyfadran Theatr a Pherfformiad, a leolwyd yn Exmouth, i'r adeilad hwn yn ogystal.

Symudwyd y Gyfadran Addysg a leolwyd gynt yng nghampws Exmouth, ar hen safle Coleg Rolle, i adeilad newydd Adeilad Rolle ym mis Awst 2008. Roedd y penderfyniad i'w symud yn un amhoblogaidd ymysg myfyrwyr Exmouth, a bu sawl gorymdaith i brotestio ac ymgyrch i gadw'r campws ar agor.[13]

Un eithriad i'r gweithgareddau canoli, yw gwaith y brifysgol yn y maes addysg ar gyfer y galwedigaethau iechyd. Caiff eu myfyrwyr eu haddysgu mewn Colegau Addysg Bellach drwy gydol Dyfnaint, Cernyw a Gwlad yr Haf, megis yng Ngholeg Celf Dartington. Ers 2006, mae'r brifysgol yn rhedeg coleg newydd, Coleg Meddygaeth a Deintyddiaeth Peninsula, ar y cyd gyda Prifysgol Caerwysg a'r Gwasnanaeth Iechyd Genedlaethol yn yr ardal.[14] Caiff adeilad newydd yn Derriford, i'r gogledd o'r ddinas, a agorwyd yn 2008 ac a gostiodd £16 miliwn, ei rannu rhwng Goleg Meddygaeth a Deintyddiaeth Peninsula a Chyfadran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.[15] Mae'r adeilad newydd yn darparu ystafelloedd dysgu, swyddfeydd, labordy sgiliau clinigol a chyfleusterau ymchwil.[14]

Mae datblygiadau a gwblhawyd yn ddiweddar yn cynnwys Sgwar Portland, ymestyniad i'r llyfrgell, ac adnoddau labory a dysgu newydd ac wedi eu adnewyddu mewn nifer o adailadau campws, neuaddau preswyl ac Ysgol Fusnes.[15]

Yn 2006, cafodd adfeilion lloches cyrch awyr yr Ail Ryfel Byd eu dadorchuddio ar y campws yn Sgwar Portland.[16] Disgynodd fom ar y lleoliad hwn yn ystod y Blits ar 22 Ebrill 1941, gan ladd dros 70 o sifiliaid, gan gynnwys mam a'i chwe phlentyn.[16]

Dewiswyd Prifysgol Plymouth gan y Royal Statistical Society ym mis Hydref 2008, i ddod yn gartref iw Ganolfan ar gyfer Addysg Ystadegol.[17]

Academyddion nodedig golygu

Mae staff y brifysgol yn cynnwys Colin Rallings a Michael Thrasher, sydd wedi ysgrifennu'n eang am systemau etholiadol, ymddygiad pleidleisio, chanlyniadau arolygon barn a gwleidyddiaeth Prydeinig, maent yn ymddangos yn gyson ar raglenni teledu etholiadau cenedlaethol ar y BBC ac ITV. Mae academyddion eraill o ~iod yn cynnwys Dr Roy Lowry[18], a dorodd record y byd ar gyfer lawnsio y nifer mwyaf o rocedi ar unwaith, ym mis Awst 2006;[19] Dr Iain Stewart sydd wedi bod yn westai ar nfer o raglenni dogfen y BBC megis Journeys into the Ring of Fire a Journeys from the Centre of the Earth; a hefyd Dr Angela Smith sydd wedi cyhoeddi nifer o weithiau sydd wedi cael eu dathlu, ar bwnc rhyw a rhyfela yn yr 20g.

Cyn-fyfyrwyr nodedig golygu

  • Graddiodd y cyflwynydd CBBC, Jeff Turner o'r brifysgol yn 2002.
  • Graddiodd y band roc Seisnig, Muse, o'r brifysgol yn 2008, gyda Doethuriaethau Celfyddydau anrhydeddus.[20]

Cyfeiriadau golygu

  1.  Staff details: Wendy Purcell. Prifysgol Plymouth. Adalwyd ar 24 Mehefin 2009.
  2. 2.0 2.1 2.2  Table 0a - All students by institution, mode of study, level of study, gender and domicile 2006/07. Higher Education Statistics Agency. Adalwyd ar 12 Ebrill 2008.
  3.  Academic dress and gowning. Prifysgol Plymouth. Adalwyd ar 24 Mehefin 2009.
  4.  Largest universities. PUSH.
  5.  Research Assesment Excercise. Research Research.
  6.  Plymouth jumps 30 places in Guardian league tables. Prifysgol Plymouth (2 May 2006).
  7.  Top Universities 2007 League Table. The Times (5 Mehefin 2006).
  8.  Top two position for Plymouth. Prifysgol Plymouth (5 Mehefin 2006).
  9.  the enterprise university. Prifysgol Plymouth (2009).
  10.  University guide: University of Plymouth. The Guardian (2 Mai 2006).
  11.  Power cable kills university boss. BBC (2 Ionawr 2007).
  12.  University boss successor named (4 Ionawr 2007).
  13.  Teaching college closure agreed. BBC News (11 Tachwedd 2005).
  14. 14.0 14.1  Student dental school is approved. BBC (26 Ionawr 2006).
  15. 15.0 15.1  Medical school plans new headquarters. BBC Devon (6 Ionawr 2002).
  16. 16.0 16.1  Tony Rees, Gerry Cullum, Steve & Karen Johnson (8 Gorffennaf 2007). Portland Square Air Raid Shelter at Plymouth. CyberHeritage.com. Adalwyd ar 6 Tachwedd 2007.
  17.  Plymouth chosen for Prestigious Centre. University of Plymouth (17 Hydref 2008). Adalwyd ar 21 Hydref 2008.
  18.  Staff details: Dr Roy Lowry. UPrifysgol Plymouth. Adalwyd ar 24 Mehefin 2009.
  19.  Firework Record goes with a Bang. BBC (16 Awst 2006).
  20.  Muse are now doctors. Muse, Blogspot. Adalwyd ar 2 Hydref 2008.

Dolenni allanol golygu