Campws prifysgol Seisnig wedi'i lleoli ger y pentref Falmer yn Nwyrain Sussex, 4 milltir (6.4 km) o Brighton ydy Prifysgol Sussex. Dyma oedd un o'r prifysgolion newydd a sefydlwyd yn ystod y 1960au. Derbyniodd ei Siarter Brenhinol ym mis Awst 1961. Yn fuan iawn, daeth Sussex yn gysylltiedig â newidiadau cymdeithasol ar ôl y rhyfel a dulliau addysgu ac ymchwil arloesol.

Prifysgol Sussex
ArwyddairBe still and know Edit this on Wikidata
Mathprifysgol ymchwil gyhoeddus, sefydliad addysg uwch, sefydliad addysgol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 16 Awst 1961 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau50.8653°N 0.0856°W Edit this on Wikidata
Map

Mae'r brifysgol o fewn yr 20 uchaf yn y Deyrnas Unedig: rhoddodd The Guardian y brifysgol ar safle rhif 18 ar gyfer 2010[1]; rhoddodd y "Good University Guide" 2008 y brifysgol ar safle 24.[2] Yn ôl rhestr o brifysgolion gorau'r Guardian ar gyfer 2010, mae gan Brifysgol Sussex yr adran Gemeg orau yn y Deyrnas Unedig. Yn 2007, etholwyd yr athro, Geoff Cloke yn gymrawd i'r Gymdeithas Frenhinol. Yn 2008, rhoddwyd Prifysgol Sussex ar safle 20 yn y DU, yn y 50 uchaf yn Ewrop a'r 130fed yn y byd.[3]

Prifysgol Sussex yw'r unig brifysgol Seisnig wedi'i lleoli yn ei chyfanrwydd mewn ardal o brydferthwch naturiol eithriadol, y Twyni Deheuol.

Cyfeiriadau golygu

  1. "University guide". Guardian Unlimited. [1] Adalwyd 2007-08-12.
  2. "Good University Guide", The Guardian, Adalwyd 26-08-2007
  3. The Top 200 World Universities. Times Higher Education. Adalwyd 27-08-2009