Prifysgol Talaith Califfornia

Un o dri sefydliad addysg uwch cyhoeddus yng Nghaliffornia, yr Unol Daleithiau yw Prifysgol Talaith Califfornia (Saesneg: California State University neu CSU). Mae'r brifysgol yn gorfforedig yn Ymddiriedolwyr Prifysgol Talaith Califfornia (The Trustees of the California State University).

Prifysgol Talaith Califfornia
Mathsystem o brifysgolion taleithiol, prifysgol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1857 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLong Beach, Califfornia Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Cyfesurynnau33.7639°N 118.2011°W Edit this on Wikidata
Map
Peidiwch â chymysgu y sefydliad hwn â Phrifysgol Califfornia.

Mae gan y brifysgol 23 campws a drost 450,000 o fyfyrwyr sy'n cael eu cefnogi gan dros 47,000 aelod o'r cyfadrannau a staff.[1] Hon yw'r system brifysgol fwyaf yn yr Unol Daleithiau.[2]

Addysgir tua 60 y cant o athrawon a 40 y cant o raddedigion peirianneg y dalaith yn y brifysgol. Addysgir hefyd nifer fwy o raddedigion busnes, amaeth, cyfathrebu, iechyd, addysg a gweinyddiaeth gyhoeddus na cholegau a phrifysgolion eraill Califfornia wedi eu cyfuno. Gwobrwyir tua hanner graddau baglor a threuan o raddau meistr Califfornia gan y brifysgol hon pob blwyddyn.

Ers 1961, mae bron 2.5 miliwn o alumni wedi ennill rhyw radd neu'i gilydd yn y brifysgol. Ceir dros 1,800 o wahanol raglenni gradd mewn tua 240 o bynciau gwahanol.

Cyfeiriadau golygu

  1.  The California State University homepage. The California State University (2006-02-13).
  2.  CSU Facts 2006. The California State University (2006-06-29).

Dolenni allanol golygu