Priordy Trefynwy

adeilad yn Nhrefynwy

Priordy Benedictaidd ger tref Trefynwy yn Sir Fynwy oedd Priordy Trefynwy, sydd bellach yn ganolfan gymdeithasol.

Priordy Trefynwy
Mathmynachlog Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1075 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTrefynwy Edit this on Wikidata
SirSir Fynwy
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr26.4 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8135°N 2.71411°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Adeiladodd yr arglwydd Normanaidd William FitzOsbern gastell yn Nhrefynwy tua 1070. Rai blynyddoedd wedyn, rhoddodd y Llydawr Guihenoc o Fynwy yr eglwys a thir o'i chwmpas i Abaty Sant Fflorent ger Saumur yn Ffrainc, Cysegrwyd eglwys y priordy tua 1101 neu 1102. Ar y dechrau, roedd saith mynach a phrior.

Yn 1291, amcangyfrifwyd gwerth y priordy fel £86, ac roedd yn berchen 480 acer o dir. Pan waethygodd y berthynas rhwng Lloegr a Ffrainc, dioddefodd y priordy oherwydd ei fod yn eiddo i abaty Ffrengig. Erbyn diddymiad y mynachlogydd, roedd gwerth y priordy yn £56, ac adroddwyd fod yr eglwys mewn cyflwr gwael iawn. Diddymwyd y priordy yn 1540.

Mae'n un o ddau-ddeg-pedwar adeilad yn Nhrefynwy sydd ar y Llwybr Treftadaeth (plac glas). Erbyn heddiw mae Cymdeithas Gymraeg Trefynwy a'r Cylch yn ei defnyddio yn reolaidd.[1]

Gweler hefyd golygu

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. http://www.cymdeithasgymraegtrefynwy.org.uk/ Archifwyd 2014-03-19 yn y Peiriant Wayback. Cymdeithas Gymraeg Trefynwy a'r Cylch