Marcus Aurelius Probus (19 Awst 232Medi-Hydref 282) oedd ymerawdwr Rhufain rhwng 276 a 282.

Probus
Ganwyd9 Awst 232 Edit this on Wikidata
Sirmium Edit this on Wikidata
Bu farw282 Edit this on Wikidata
Sirmium Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig Edit this on Wikidata
PlantAdrian o Nicomedia Edit this on Wikidata

Ganed Probus yn Sirmium, yn nhalaith Pannonia, ac ymunodd a'r fyddin yn ŵr ieuanc. Daeth i sylw oherwydd ei wasanaeth dan yr ymerodron Valerian I, Tacitus ac Aurelian. Enwyd ef yn rhaglaw rhan ddwyreiniol yr ymerodraeth gan yr ymerawdwr Tacitus, ac wedi marw'r ymerawdwr cyhoeddwyd Probus yn ymerawdwr yn ei le gan ei lengoedd. Roedd Florianus, brawd Tacitus, wedi ei gyhoeddi'n ymerawdwr, ond llofruddwiyd ef gan ei filwyr ei hun, a derbyniwyd Probus fel ymerawdwr gan y Senedd.

Treuliodd Probus ei deyrnasiad fel ymerawdwr yn ymladd i ddiogelu ffiniau'r ymerodraeth, yn arbennig yn nhaleithiau Gâl yn erbyn y llwythi Almaenaidd. Llwyddodd i orchfygu tair ymgais i'w ddiorseddu, gan Saturninus, Proculus a Bonosus. Credai Probus fod angen cadw'r milwyr yn brysur i osgoi gwrthryfela, ac felly yn amser heddwch rhoddwyd hwy ar waith i gynorthwyo'r gymuned, er enghraifft yn plannu gwinwydd yn Ngâl a Pannonia. Yn naturiol nid oedd hyn yn boblogaidd gyda'r milwyr eu hunain, a llofruddiwyd Probus gan ei filwyr ei hun tra'r oedd wrthi'n ceisio sychu corsydd gerllaw ei dref enedigol. Cyhoeddwyd Marcus Aurelius Carus yn ymerawdwr tua'r adeg yma, ond mae'n ansicr a oedd hyn cyn llofruddiaeth Probus, ac felly'n rheswm dros y llofruddiaeth, neu wedi i'r newyddion am lofruddiaeth Probus ei gyrraedd.

Galarwyd yn fawr ar ôl yr ymerawdwr gan y Senedd a'r bobl, a hyd yn oed gan y milwyr. I ddangos eu hedifeirwch am eu gweithred, codasant gofgolofn iddo.

Rhagflaenydd:
Florianus
Ymerawdwr Rhufain
276282
Olynydd:
Carus