Enw ar ddosbarth economaidd-gymdeithasol y gweithwyr cyflogedig yw proletariat.[1] Deillia'r gair o'r dosbarth gweithiol isaf yn Rhufain hynafol. Yn yr 19g defnyddiai'r enw gan Karl Marx a Friedrich Engels i ddisgrifio llafurwyr a gweithwyr eraill ar lefel isaf y gymdeithas gyfalafol, a chanddynt ddim ased materol na mantais economaidd heblaw am eu hamser a'u nerth corfforol.

Rhufain hynafol golygu

Yn Rhufain hynafol, y proletariat oedd y dynion rhydd tlawd, heb berchen ar dir, ar y safle isaf yn nhrefn dinasyddion Rhufain. Yn eu plith oedd crefftwyr a a gweithwyr medrus a chawsant eu taro'n economaidd gan dwf caethwasiaeth. Cyflawnai'r rhan helaeth o lafurio a gwaith gwasaidd gan gaethweision, ac o ganlyniad bu gan y proletariat effaith barasitig ar economi Rhufain gan nad oedd digon o gyfleoedd iddynt weithio'n gynhyrchiol. Ystyr yr enw Lladin proletariat yw "rhai sydd yn epilio", hynny yw y rhai a oedd yn cynhyrchu plant yn unig. Priodolir cydnabyddiaeth swyddogol y proletariat i'r brenin Servius Tullius yn y 6g CC. Ar adegau yn hanes Rhufain, buont yn bwysig fel torfeydd yn y brwydrau rhwng y pendefigion a'r gwerinwyr cefnog. Oherwydd y bygythiad o anufudd-dod a gwrthryfela gan y rhai yn nosbarth isaf y gymdeithas, bu'r uchelwyr yn ceisio bodloni'r proletariat drwy ddognau bara a chwaraeon a sioeau'r ludi.

Marcsiaeth golygu

 
Darluniad o byramid cymdeithas ym mhapur newydd Gweithwyr Diwydiannol y Byd sydd yn dangos y proletariat ar waelod y gyfundrefn gyfalafol (1911).

Defnyddiai'r enw proletariat gan Marx ac Engels i ddisgrifio'r gweithwyr cyflogedig sydd yn ennill eu hincwm drwy werthu grym llafur, er budd y cynhyrchwyr diwydiannol. Y bwrdais sydd yn berchen ar eiddo a'r dulliau cynhyrchu, nid y gweithwyr eu hunain. Gwelsai Marx gwahaniaethau rhwng y proletariat, y tlawd, y dosbarth gweithiol, a'r lumpenproletariat. Er yr oedd y mwyafrif o'r proletariat yn byw mewn tlodi, nid oeddynt yn gyfystyr â dosbarth y tlawd gan fod rhai ohonynt yn weithwyr medrus neu'n "bendefigaeth lafuriol", yn yr un modd nad yw pob un o aelodau'r dosbarth entrepreneuraidd yn gyfoethog. Categori ehangach o lawer ydy'r dosbarth gweithiol, sydd yn crybwyll pob un gweithiwr sydd yn ennill cyflog, gan gynnwys gweision fferm, gweithwyr swyddfa, a morwynion yn ogystal â'r proletariat diwydiannol. Piau gweithwyr yr ymylon, cardotwyr a'r di-waith i'r lumpenproletariat. Er gwaethaf dadansoddiadau Marx, câi'r termau proletariat a dosbarth gweithiol eu defnyddio'n gyfystyron yn aml iawn mewn llên ymgyrchol yr adain chwith. Mae rhai wedi beirniadu disgrifiadau syml Marx, gan nad ydynt yn manylu ar safleoedd rheolwyr, gweithwyr proffesiynol, deallusion, a gwragedd y tŷ. Nid yw'r dosbarthau hyn yn berchen ar eiddo, ac yn ôl diffiniadau economaidd Marx nid ydynt yn cynhyrchu gwerth ychwaith. Mae'r berthynas rhwng y fath weithwyr a'r proletariat yn ansicr felly.[2]

Yn namcaniaeth Farcsaidd, mae'r system gyfalafol yn elwa ar draul y proletariat drwy ddibynnu ar weithwyr diwydiannol i gynnal y system economaidd a chymryd y dulliau cynhyrchu a'r cyfoeth oddi arnynt. Dadleuir nad oes ganddynt lais gwleidyddol gan nad oes ganddynt y grym economaidd i ddylanwadu ar y wladwriaeth, sydd dan reolaeth y fwrdeisiaeth. Yn Y Maniffesto Comiwnyddol, haerasant Marx ac Engels taw cyfnod pwysicaf ym mrwydr y dosbarthiadau byddai uno a byddino'r proletariat er mwyn trawsnewid o gyfalafiaeth fwrdeisaidd i gomiwnyddiaeth. Rhagdybiodd Marx y byddai'r proletariat yn cynyddu'n raddol ac yn trefnu ei hunan yn nhermau'i ymwybyddiaeth o ddosbarth, ac wedyn yn arwain y chwyldro i ddymchwel y gyfundrefn gyfalafol. Yn y system gomiwnyddol ddelfrydol, byddai'r holl ddosbarthiadau economaidd yn diflannu o ganlyniad i gael gwared ar eiddo preifat. Daeth y syniad o lywodraeth gan y proletariat fel rhan o'r trawsnewidiad yn ganolog i Farcsiaeth a Leniniaeth yn enwedig. Dadleuai Lenin dros yr angen am blaid chwyldroadol i arwain y gad a chynhyrfu'r proletariat. Mae rhai o aelodau Ysgol Frankfurt yn bwrw amheuaeth ar y disgwyliad i'r proletariat fod yn rym chwyldroadol o gwbl.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1.  proletariat. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 25 Medi 2018.
  2. 2.0 2.1 Elliott Johnson, David Walker, a Daniel Gray, Historical Dictionary of Marxism ail argraffiad (Llundain: Rowman & Littlefield, 2014), tt. 357–58.