Gwasanaeth e-bost a sefydlwyd yn 2013 yw Proton Mail. Mae Proton Mail yn gallu amgryptio negeseuon e-bost, gan eu gwneud yn amhosibl i ddarllen gab unrhyw un heb cyfrinair amgryptio. Mae Proton Mail yn bodoli yn rhannol fel ymateb i newyddion gan Edward Snowden am gwyliadwriaeth a wnaed gan yr Asiantaeth Diogelwch Cenedlaethol yr Unol Daliaethau. Mae Proton Mail yn cael ei redeg yn y Swistir, lle nid oes gan yr Unol Daliaethau awdurdodaeth gyfreithiol[1]. Maent wedi rhedeg ymgyrch lwyddiannus i godi arian o roddion[2]. Ym mis Awst 2014 roedd gan Proton Mail tua 250,000 o ddefnyddwyr; ym Mehefin 2015 roedd y nifer o ddefnyddwyr wedi dyblu i 500,000. Ar hyn o bryd, mae gan Proton Mail dros filiwn o ddefnyddwyr[3].

Logo Proton Mail

Cyfeiriadau golygu

  1. https://techcrunch.com/2014/06/23/protonmail-is-a-swiss-secure-mail-provider-that-wont-give-you-up-to-the-nsa/
  2. https://cointelegraph.com/news/protonmail-collects-over-us10000-in-btc-donations-in-6-weeks
  3. https://proton.me/about