Talaith yng ngogledd-orllewin India ar y ffin â Pacistan yw'r Punjab neu'r Pwnjab.[1] Ei brifddinas yw Chandigarh. Mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn siarad Punjabi fel iaith gyntaf. Mae'r dalaith yn gadarnle i'r Siciaid ac yn mwynhau'r safon byw uchaf yn y wlad. Mae'n ffinio â Jammu a Kashmir a Himachal Pradesh i'r gogledd, Haryana i'r dwyrain a'r de a rhan o Rajasthan i'r de-orllewin.

Punjab
Mathtalaith India Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlPunjab Edit this on Wikidata
PrifddinasChandigarh Edit this on Wikidata
Poblogaeth27,743,338 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1956 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethBhagwant Mann Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+05:30 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Pwnjabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolIndo-Gangetic Plain, North India, Punjab Edit this on Wikidata
SirIndia Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Arwynebedd50,362 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaPunjab, Rajasthan, Haryana, Himachal Pradesh, Jammu and Kashmir, Chandigarh Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau30.77°N 75.47°E Edit this on Wikidata
IN-PB Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolPunjab Legislative Assembly Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholPunjab Legislative Assembly Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethBanwarilal Purohit Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Chief Minister of Punjab Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethBhagwant Mann Edit this on Wikidata
Map

Cyn yr Ymraniad ar ddiwedd y 1940au, roedd y Punjab yn ymestyn ar y ddwy ochr i'r ffin bresennol rhwng Pacistan ac India, gyda'i phrifddinas yn Lahore (Pacistan). Dioddefodd yr ardal yn ddrwg iawn yn yr Ymraniad gyda'r gorllewin Mwslemaidd yn mynd i Bacistan a'r dwyrain Sicaidd a Hindŵaidd yn aros yn India, ond mae'r Siciaid yn weithwyr dyfal ac yn enwog am eu gallu mewn busnes, ac erbyn heddiw mae'r Punjab yn dalaith lewyrchus. Fe'i rhanwyd eto yn ddwy dalaith yn 1966: Punjab ei hun, gyda'r mwyafrif yn Siciaid, a Haryana gyda'r mwyafrif yn Hindŵ.

Nodweddid y dalaith gan eithafiaeth gan rhai Siciaid yn y 1980au a'r 1990au cynnar. Meddianwyd y Deml Aur yn Amritsar, canolfan grefyddol y Siciaid, gan eithafwyr a chafwyd brwydr waedlyd yno. Erbyn heddiw mae'r dalaith yn dawel eto.

Lleoliad y Punjab yn India

Cyfeiriadau golygu


 
Taleithiau a thiriogaethau India
Taleithiau Andhra PradeshArunachal PradeshAssamBiharChhattisgarhGoaGorllewin BengalGujaratHaryanaHimachal PradeshJharkhandKarnatakaKeralaMadhya PradeshMaharashtraManipurMeghalayaMizoramNagalandOrissaPunjabRajasthanSikkimTamil NaduTelanganaTripuraUttarakhandUttar Pradesh
Tiriogaethau Ynysoedd Andaman a NicobarChandigarhDadra a Nagar HaveliDaman a DiuDelhiJammu a KashmirLakshadweepPuducherry