Band punk rock ffeministaidd o Foscow ydy Pussy Riot. Mae'r grŵp yn sgwennu ei enw efo llythrennau Lladin a chaiff hynny ei gopio gan y Wasg yn Rwsia. Cafodd y grŵp ei sefydlu yn Awst 2011 ac mae oddeutu 12 aelod, pob un yn gwisgo balaclafa lliwgar ac yn defnyddio llysenwau yn hytrach nag enwau go iawn.

Pussy Riot
Saith aelod y band Pussy Riot
Y Cefndir
TarddiadMoscow, Rwsia
Math o GerddoriaethPunk rock, anarchiaeth
Cyfnod perfformio2011 (2011)–present
LabelDim
Gwefanpussy-riot.livejournal.com
Y grŵp Pussy Riot yn perfformio yn Lobnoye Mesto yn y Sgwâr Coch yn Ionawr 2012.

Fel arfer maen nhw'n trefnu gigs byr fyfyr, heb gyhoeddusrwydd ymlaen llaw: gigiau profoclyd gan dynnu coes gwleidyddion megis y Prif Weinidog Vladimir Putin. Cynhelir y gigs yn aml mewn lleoliadau anghyffredin, llefydd fel Lobnoye Mesto yn y Sgwâr Coch neu ar dop bws neu dram neu ar sgaffold. Golygir y perfformiadau hyn ganddynt a'i bostio ar y we.[1]

Ar 21 Chwefror 2012, perfformiodd pump aelod o'r grŵp[2] yr hyn a alwant yn "weddi'r pync" ("punk Prayer"), mewn eglwys yng nghanol Moscow, sef Eglwys Gadeiriol Crist yr Achubwr.[3] Camodd swyddogion yr eglwys ymlaen i'w hatal rhag gorffen y gig, ond erbyn fin nos roedd aelodau'r grŵp wedi golygu'r fideo a'i alw'n “O, Fam Crist, rho Putin dan Glo!”. Yn y gân roeddent yn sarhau Putin a phennaeth yr Eglwys Uniongred yn Rwsia (Kirill I).[4][5][6]

Arestio a charchar golygu

Ar 3 Mawrth arestiwyd dau aelod o'r grŵp: Nadezhda Tolokonnikova a Maria Alyokhina ar gyhuddiad o hwliganiaeth. Arestiwyd trydydd aelod ar y 15fed: Yekaterina Samutsevich.[7]

Fe'u cadwyd yn y ddalfa tan ddiwedd Gorffennaf pan roddwyd hwy ar brawf; daeth cyhoeddusrwydd byd-eang i'r achos hwn. Ar 21 Awst dedfrydwyd y tair merch i ddwy flynedd yr un o garchar.[8][9]

Yn ôl llefarydd ar ran y BBC, roedd barn cryf ledled y byd fod y ddedfryd yn rhy uchel, yn rhy drwm.[10] Credir fod dau aelod arall o'r grŵp wedi cymryd y goes a'i heglu hi o'r wlad, rhag ofn iddynt hwythau gael eu rhoi ar brawf. Edrychir ar y dair arall gan nifer o fudiadau fel carcharorion gwleidyddol.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Pussy Riot dig claws into Putin". Financial Times. 16 Mawrth 2012.
  2. "Russian police hunt for more members of Pussy Riot". The Guardian. 20 August 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-23. Cyrchwyd 2012-09-02.
  3. Pussy Riot gig at Christ the Savior Cathedral (original video). 2 Chwefror 2012. Cyrchwyd 1 Medi 2012.
  4. "Six arrested at Pussy Riot protest in New York". Yahoo! News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-23. Cyrchwyd 2012-09-02.
  5. "Pussy Riot sentenced to two years in prison colony over anti-Putin protest". The Guardian. 17 Awst 2012.
  6. Carol Rumen (20 Awst 2012). "Pussy Riot's Punk Prayer is pure protest poetry". The Guardian.
  7. "Мэр Рейкьявика проехал по городу в образе Pussy Riot". lenta.ru.
  8. "Pussy Riot sentenced to two years in jail". RT. 17 Awst 2012.
  9. "Pussy Riot found guilty of hooliganism by Moscow court". BBC NEWS. 17 Awst 2012. Cyrchwyd 17 Awst 2012.
  10. BBC, 18 Awst 2012