Pyrrhocorax

genws o adar
Pyrrhocorax
Pyrrhocorax
Y Frân goesgoch (genws)

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Corvidae
Genws: Brain
Rhywogaeth: Pyrrhocorax
Enw deuenwol
Pyrrhocorax
Dosbarthiad y rhywogaeth

Genws o adar ydyw'r Pyrrhocorax (Saesneg: chough) a adnabyddir hefyd fel Brân goesgoch. Ceir dwy rywogaeth oddi fewn y genws hwn:

Mae 'Brân goesgoch' felly'n cyfeirio at y genws hwn a'r rhywogaeth. Mae'n perthyn i deulu'r Corvidae. Nid yw 'Brân goesgoch adain-wen' Awstralia (Corcorax melanorhamphos) yn frân goesgoch, mewn gwirionedd, ond mae'n berynas pell; mae'r term Cymraeg amdano'n cydnabod hynny: yr Apostol du.

Recordiad o'r Frân goesgoch
yng Ngheredigion

Mae plu'r ddwy rywogaeth yn y genws hwn yn ddu fel y nos ac mae ganddyn nhw goesau, traed a phigau coch, fel mae'r enw'n ei awgrymu. Mae ei hadennydd yn hir a llydan a gallant berfformio'n ddyheuig ac acrobataidd yn yr awyr. Mynydd-dir de Ewrasia yw eu tiriogaeth, a gogledd Affrica. Mae'r ddwy rywogaeth yn cadw eu partner am oes, gan nythu ar ochr dibyn neu ogof. Gwneir y nyth allan o frigau ac mae'r fenyw yn dodwy rhwng tair i bum wy ar y tro.

Maent yn dod at ei gilydd i fwydo, fel arfer ar laswelltiroedd, gan fwyta anifeiliaid di-asgwrn cefn a pheth llysiau, fel rheol.