Quaich y Ganrif

tlws rygbi'r undeb

Mae Quaich y Ganrif ( /k w eɪ x /: Gaeleg yr Alban: Cuach nan Ceud Bliadhna Gwyddeleg: Corn na Céad Bliain Saesneg Centenary Quaich) yn dlws rygbi'r undeb rhyngwladol sy'n cael ei herio'n flynyddol gan Iwerddon a'r Alban fel rhan o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Quaich y Ganrif
Enghraifft o'r canlynolrugby union trophy or award, digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1989 Edit this on Wikidata
LleoliadIwerddon, Yr Alban Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Gair Gaeleg am lestr yfed [1] yw "Quaich" ac mae wedi'i gyflwyno i enillwyr y gêm ers 1989.[2] Ers cyflwyno'r gwpan, mae Iwerddon wedi ei hennill 17 o weithiau tra bod yr Alban wedi ei hennill 14 gwaith, gydag un gêm gyfartal.

Mae'r Quaich yn un o nifer o gwpanau tebyg y mae timau unigol yn cystadlu amdanynt fel rhan o gemau rhyngwladol. Mae enghreifftiau eraill ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn cynnwys Cwpan Calcutta (Yr Alban v. Lloegr ), Tlws y Mileniwm (Lloegr v Iwerddon), Tlws Giuseppe Garibaldi (Ffrainc v Yr Eidal ) Tlws yr Auld Alliance rhwng Ffrainc a'r Alban a Chwpan Doddie Weir rhwng Yr Alban a Chymru.

Sefydlwyd y wobr i ddathlu 100fed cyfarfod y ddau dîm yn y bencampwriaeth ym 1989, (nid canmlwyddiant y cyfarfod cyntaf, cafodd nifer o gemau blynyddol eu methu oherwydd y ddau ryfel byd).[3]

Nid yw'r tlws yn cael ei rhoi mewn unrhyw gemau y tu allan i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad, megis Cwpan y Byd. Cyn cyflwyno'r Quaich am y canfed gêm, bu 45 buddugoliaeth i'r Iwerddon a 49 i'r Alban; bu 4 gêm gyfartal a bu'n rhaid rhoi'r gorau i un gêm.

Y deiliaid presennol yw Iwerddon ar ôl curo'r Alban yn Stadiwm Aviva ar 1 Chwefror 2020.

Gemau golygu

Gemau gartref Wedi chwarae Buddugoliaethau Cyfartal Pwyntiau i
  Iwerddon   yr Alban   Iwerddon   yr Alban
  Iwerddon 16 10 5 1 387 240
  yr Alban 16 7 9 0 394 318
Cyfanswm 32 17 14 1 781 558

Canlyniadau golygu

Blwyddyn Dyddiad Maes Tîm gartref Sgôr Ymwelwyr Enillydd
2021 14 Mawrth Murrayfield, Caeredin yr Alban   24–27   Iwerddon   Iwerddon
2020 1 Chwefror Stadiwm Aviva, Dulyn Iwerddon   19–12   yr Alban   Iwerddon
2019 9 Chwefror Murrayfield, Caeredin yr Alban   13–22   Iwerddon   Iwerddon
2018 10 Mawrth Stadiwm Aviva, Dulyn Iwerddon   28–8   yr Alban   Iwerddon
2017 4 Chwefror Murrayfield, Caeredin yr Alban   27–22   Iwerddon   yr Alban
2016 19 Mawrth Stadiwm Aviva, Dulyn Iwerddon   35–25   yr Alban   Iwerddon
2015 21 Mawrth Murrayfield, Caeredin yr Alban   10–40   Iwerddon   Iwerddon
2014 2 Chwefror Stadiwm Aviva, Dulyn Iwerddon   28–6   yr Alban   Iwerddon
2013 24 Chwefror Murrayfield, Caeredin yr Alban   12–8   Iwerddon   yr Alban
2012 10 Mawrth Stadiwm Aviva, Dulyn Iwerddon   32–14   yr Alban   Iwerddon
2011 27 Chwefror Murrayfield, Caeredin yr Alban   18–21   Iwerddon   Iwerddon
2010 20 Mawrth Parc Croke, Dulyn Iwerddon   20–23   yr Alban   yr Alban
2009 14 Mawrth Murrayfield, Caeredin yr Alban   15–22   Iwerddon   Iwerddon
2008 9 Mawrth Parc Croke, Dulyn Iwerddon   34–13   yr Alban   Iwerddon
2007 10 Mawrth Murrayfield, Caeredin yr Alban   18–19   Iwerddon   Iwerddon
2006 11 Mawrth Lansdowne Road, Dulyn Iwerddon   15–9   yr Alban   Iwerddon
2005 12 Chwefror Murrayfield, Caeredin yr Alban   13–40   Iwerddon   Iwerddon
2004 27 Mawrth Lansdowne Road, Dulyn Iwerddon   37–16   yr Alban   Iwerddon
2003 16 Chwefror Murrayfield, Caeredin yr Alban   6–36   Iwerddon   Iwerddon
2002 2 Mawrth Lansdowne Road, Dulyn Iwerddon   43–22   yr Alban   Iwerddon
2001 22 Medi Murrayfield, Caeredin yr Alban   32–10   Iwerddon   yr Alban
2000 19 Chwefror Lansdowne Road, Dulyn Iwerddon   44–22   yr Alban   Iwerddon
1999 20 Mawrth Murrayfield, Caeredin yr Alban   30–13   Iwerddon   yr Alban
1998 7 Chwefror Lansdowne Road, Dulyn Iwerddon   16–17   yr Alban   yr Alban
1997 1 Mawrth Murrayfield, Caeredin yr Alban   38–10   Iwerddon   yr Alban
1996 20 Ionawr Lansdowne Road, Dulyn Iwerddon   10–16   yr Alban   yr Alban
1995 4 Chwefror Murrayfield, Caeredin yr Alban   26–13   Iwerddon   yr Alban
1994 5 Mawrth Lansdowne Road, Dulyn Iwerddon   6–6   yr Alban Cyfartal
1993 16 Ionawr Murrayfield, Caeredin yr Alban   15–3   Iwerddon   yr Alban
1992 15 Chwefror Lansdowne Road, Dulyn Iwerddon   10–18   yr Alban   yr Alban
1991 16 Mawrth Murrayfield, Caeredin yr Alban   28–25   Iwerddon   yr Alban
1990 3 Chwefror Lansdowne Road, Dulyn Iwerddon   10–13   yr Alban   yr Alban
1989 4 Mawrth Murrayfield, Caeredin yr Alban   37–21   Iwerddon   yr Alban

Cyfeiriadau golygu

  1. "Scottish word of the week: Quaich". The Scotsman. Johnston Publishing. 8 May 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-02. Cyrchwyd 20 February 2016.
  2. "Sporting Life - Six Nations 2001". web.archive.org. 2011-06-05. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-05. Cyrchwyd 2021-02-14.
  3. Trophy Room RUGBY - CENTENARY QUAICH adalwyd 14 Chwefror 2021