Gwobr a noddir yn annibynnol ar gyfer ffilmiau LHDT a gyflwynir yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes ydy'r Queer Palm. Sefydlwyd y wobr yn 2010 gan y newyddiadurwr Franck Finance-Madureira sy'n trefnu'r digwyddiad yn flynyddol. Noddir y wobr gan Olivier Ducastel a Jacques Martineau, gwneuthurwyr y ffilmiau Jeanne and the Perfect Guy, The Adventures of Felix, Crustacés et Coquillages, a L'Arbre et la forêt.

Gwobrwyir ffilmiau am eu hymdriniaeth o themâu LHDT ac fe'u dewisir o'r ffilmiau a enwebir neu a gyflwynir yn y Detholiad Swyddogol, Un Certain Regard, Wythnos y Beirniaid Rhyngwladol a Phythefnos y Cyfarwyddwyr.

Enillwyr golygu

Blwyddyn Ffilm fuddugol Ffilm fer fuddugol
2010 Kaboom
by Gregg Araki
 
 
Heb ei gydnabod
2011 Beauty
gan Oliver Hermanus
 
 
Heb ei gydnabod
2012 Laurence Anyways
gan Xavier Dolan
 
It's Not a Cowboy Movie
gan Benjamin Parent
 
2013 Stranger by the Lake[1]
gan Alain Guiraudie
 
Heb ei gydnabod
2014 Pride[1]
by Matthew Warchus
 
Heb ei gydnabod

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1  'Hardcore' gay film wins at Cannes. Bangkok Post (26 Mai 2013). Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "bangkokpost" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol

Dolenni allanol golygu