Chwaraewr rygbi'r undeb oedd Rhys Haydn Williams (14 Gorffennaf 193027 Ionawr 1993). Chwaraeodd 23 o weithiau dros Gymru fel clo.

R. H. Williams
Ganwyd14 Gorffennaf 1930 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw27 Ionawr 1993 Edit this on Wikidata
Yr Eglwys Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Llanelli, Bristol Bears, Y Barbariaid, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Edit this on Wikidata
SafleClo Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Ganed ef yng Ngwmllynfell, ac addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Ystalyfera a Phrifysgol Caerdydd. Chwaraeodd dros dîm cyntaf clwb Llanelli yn 19 oed, a bu'n gapten ar y clwb yn y tymor 1957–1958. Wedi graddio, ymunodd a'r Llu Awyr Brenhinol fel Swyddog Addysgol, ac yn ddiweddarach bu'n gweithio fel cemegydd ac fel dirprwy Gyfarwyddwr Addysg dros Ganol Morgannwg.

Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn erbyn Iwerddon yn 1954, a chadwodd ei le yn y tîm hyd 1960; ef oedd capten cymru yn erbyn Lloegr y flwyddyn honno. Aeth gyda'r Llewod i Dde Affrica yn 1955 ac i Awstralia a Seland Newydd yn 1959. Ar y teithiau yma, chwaraeodd mewn deng gêm brawf yn olynol. Bu hefyd ar daith i Dde Affrica a Canada gyda'r Barbariaid.

Yn ei lyfr Welsh Rugby Heroes, gosododd Andrew Bennett Rhys Williams yn rhif 4 yn ei restr o chwaraewyr gorau erioed Cymru.

Llyfryddiaeth golygu

  • Gareth Hughes One hundred years of scarlet (Clwb Rygbi Llanelli, 1983)