Economegydd a gwleidydd Archentaidd oedd Raúl Prebisch (17 Ebrill 190129 Ebrill 1986) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau at economeg adeileddol ac am arloesi damcaniaeth ddibyniaeth. Gwasanaethodd mewn sawl swydd ym mydoedd llywodraeth ac addysg, a bu'n cynghori gwledydd datblygol sut i hybu gweithgynhyrchu ac i leihau dibyniaeth ar fewnforion.[1]

Raúl Prebisch
Raúl Prebisch ym 1954.
Ganwyd17 Ebrill 1901 Edit this on Wikidata
San Miguel de Tucumán Edit this on Wikidata
Bu farw29 Ebrill 1986, 15 Ebrill 1986 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Santiago de Chile Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Buenos Aires Edit this on Wikidata
Galwedigaetheconomegydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Buenos Aires Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Jawaharlal Nehru am Ddeallusrwydd Rhyngwladol, Medal Anrhydedd Dag Hammarskjold, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Madrid, Uwch Groes Urdd Haul Periw Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed Raúl Prebisch ar 17 Ebrill 1901 yn San Miguel de Tucumán, Talaith Tucumán, yng ngogledd yr Ariannin. Astudiodd economeg ym Mhrifysgol Buenos Aires. Wedi iddo raddio, ymunodd â chyfadran economeg y brifysgol a bu'n athro economi wleidyddol o 1925 i 1948. Gwasanaethodd yn swydd dirprwy gyfarwyddwr Adran Ystadegau'r Ariannin o 1925 i 1927, yn gyfarwyddwr dros ymchwil economaidd ym Manc Cenedlaethol yr Ariannin o 1927 i 1930, yn is-ysgrifennydd cyllid o 1930 i 1932, ac yn cyfarwyddwr cyffredinol cyntaf Banc Canolog yr Ariannin o 1935 i 1948.[2]

Yn 1948 ymunodd â Chomisiwn Economaidd y Cenhedloedd Unedig dros America Ladin, a fe'i benodwyd yn ysgrifennydd gweithredol. Daliodd y swydd honno hyd 1963. Gwasanaethodd yn ysgrifennydd cyffredinol Cynhadledd Masnach a Datblygiad y Cenhedloedd Unedig o 1965 i 1969. Wedi 1969, bu'n gyfarwyddwr cyffredinol Sefydliad Cynllunio Economaidd a Chymdeithasol y Cenhedloedd Unedig ar gyfer America Ladin.[2]

Bu farw yn Las Verientes ger Santiago de Chile,[1] o drawiad ar y galon, yn 85 oed.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Raúl Prebisch. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Ionawr 2020.
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) "Raúl Prebisch" yn Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar 11 Ionawr 2020.