Rached Ghannouchi

Gwleidydd Tiwnisiaidd o dueddiadau Islamig yw Rached Ghannouchi neu Rachid Al-Ghannouchi (Arabeg: راشد الغنوشي, ganed 22 Mehefin 1941, El Hamma, Tiwnisia). Ef yw arweinydd mewn alltudiaeth Hizb al-Nahda, gwrthblaid waharddedig yn Tiwnisia sy'n gweithio dros greu gweriniaeth Islamaidd yn y wlad honno.

Rached Ghannouchi
Ganwyd22 Mehefin 1941 Edit this on Wikidata
El Hamma Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSwdan, French protectorate of Tunisia, Tiwnisia Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfreithiwr, gwleidydd, academydd Edit this on Wikidata
SwyddSpeaker of the Assembly of the Representatives of the People Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolHizb al-Nahda Edit this on Wikidata
Gwobr/auIbn Rushd Prize for Freedom of Thought, Chatham House Prize, Jamnalal Bajaj Award, Ibn Rushd Prize for Freedom of Thought Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://ar.rachedelghannouchi.com/, http://fr.rachedelghannouchi.com/ Edit this on Wikidata

Bu'n garcharor gwleidyddol yn Tiwnisia ddiwedd y 1980au. Am ei fod wedi ei ddeddfrydu i garchar am oes ni all ddychwelyd i'w famwlad dan yr amgylchiadau presennol, ond mae'n ffigwr dylanwadol ymhlith Tiwnisiaid alltud. Yn swyddogol, mae ef a'i blaid yn credu mewn Islamiaeth a democratiaeth, gan bwysleisio ei fod am weld sefydlu system lluosogaeth wleidyddol yn y wlad, ond mae rhai yn amau diffuantrwydd hyn.

Dolen allanol golygu