Rachel Bilson

actores a aned yn 1981

Mae Rachel Sarah Bilson (ganwyd ar 25 Awst 1981) yn actores Americanaidd. Ar ôl cael ei magu mewn teulu o fyd y ddiwydiant adloniant yng Nghaliffornia, fe ymddangosodd ar y teledu yn 2003 ac fe ddaeth hi’n enwog am chwarae Summer Roberts ar y gyfres The O.C. Fe ymddangosodd Bilson mewn ffilm yn 2006 yn y ffilm The Last Kiss ac fe serennodd yn y ffilm cyffro/gwyddonias Jumper (2008).

Rachel Bilson
Ganwyd25 Awst 1981 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor, actor teledu, actor ffilm Edit this on Wikidata
TadDanny Bilson Edit this on Wikidata
PartnerAdam Brody, Hayden Christensen, Bill Hader Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Bywyd Cynnar golygu

Ganwyd Bilson yn Los Angeles, yn ferch i Janice, therapydd rhyw, a Danny Bilson, ysgrifennwr, cyfarwyddwr a chynhyrchydd. Mae tad Bilson yn Iddew Americanaidd ac mae ei mam yn Americanes-Eidalaidd ond wedi ei geni yn Philadelphia. Mae tad Bilson yn dod o deulu o fyd y ddiwydiant adloniant; roedd ei hen-daid, George Bilson (ganwyd yn Leeds, Gorllewin Swydd Efrog, Lloegr), yn bennaeth ar yr adran hysbyslun yn RKO Pictures, tra fod ei hen-nain, a anwyd yn Brooklyn, Hattie Bilson yn ysgrifenwraig sgrîn ac mae ei thaid, Bruce Bilson, yn gyfarwyddwr ffilm. Fe ysgarodd rhieni Bilson yn ystod ei phlentyndod, ac ym 1997 fe ail briododd ei thad Heather Medway, actores a mam i hanner-chwiorydd Bilson Hattie a Rosemary.

Mae sôn fod Bilson wedi bod trwy gyfnod “hunan-ddinistriol a gwrthryfelgar” yn ystod ei harddegau. Pan roedd hi’n 14, fe fuodd hi a grŵp o ffrindiau ei brawd mewn damwain car, gwrthdrawiad yn syth mewn i gar arall. O ganlyniad roedd Bilson yn anymwybodol am rai diwrnodau, mae ganddi graith uwch ben ei llygaid dde, ac mae hi weithiau’n dioddef o gur pen ac yn colli’i chof. Dywedodd fod y profiad hyn wedi ei newid hi, ac wedi ei hannog i stopio mynd mewn i drwbl ac wedi ei stopio rhag mynd lawr y ffordd honno. Fe raddiodd Bilson o Walker Reed Middle School ym 1996 ac o Notre Dame High School ym 1999. Yn ystod ei hamser yn Notre Dame, fy ymddangosodd mewn cynyrchiadau o Bye Bye Birdie, Once Upon a Mattress a The Crucible.

Gyrfa golygu

 Rhybudd!   Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon.
Beth am fynd ati i'w chywiro?

Dyma restr o erthyglau i'w cywiro: Tudalennau â phroblemau ieithyddol.

Mynychodd Bilson Grossmont College yn San Diego, ond fe adawodd ar ôl blwyddyn, gan gymryd cyngor ei thad i ddechrau gyrfa mewn actio a dechreuodd ymddangos mewn amryw o hysbysebion, yn cynnwys hysbysebion ar gyfer Subway, Raisin Bran a Pepto-Bismol. Yn gynnar yn 2003 fe ymddangosodd Bilson mewn episodau o Buffy the Vampire Slayer a 8 Simple Rules for Dating My Teenage Daughter. Wedyn cafodd Bilson ei chastio yn The O.C., a ddaeth yn Awst 2003. Y bwriad oedd i’w chymeriad, Summer Roberts, ond i ymddangos mewn cwpl o episodau, ond fe ddaeth hi’n gymeriad rheolaidd ar ôl rhediad llwyddiannus, wrth i ramant ar-sgrîn Bilson gyda Seth Cohen (Adam Brody) ddod yn elfen nodweddiadol i’r gyfres.

Fel canlyniad i’r llwyddiant a fu yn The O.C., mae Bilson wedi dod yn adnabyddus ymysg cynulleidfa yn eu arddegau. Yn y Teen Choice Awards yn 2005, fe gafodd Bilson tair gwobr: “Choice Hottie Female”, “Choice TV Actress (Drama” a “Best Onscreen TV chemistry” (wedi ei ennill ar y cyd gyda Adam Brody). Yn 2005, fe alwodd y cylchgrawn Maxim hi y chweched en eu “Hot 100 List” blynyddol; yn 2006 fe gafodd hi #14. Fe alwodd fersiwn y DU o’r cylchgrawn FHM hi yn 28ain yn y rhestr “100 Sexiest Women in the World” yn 2006, tra alwaydd fersiwn yr US hi’n rhif 77 yn 2005. Hefyd fe gafodd ei galw’n in o’r “100 Most Beautiful People” yn 2006 gan y cylchgrawn People. Yn Ionawr 2008, fe alwodd cyflwynydd radio Howard Stern hi yn yr “hottest chick in Hollywood”.

Rôl gyntaf Bilson mewn ffilm oedd yn The Last Kiss, ffilm gomedi rhamantus, hefyd yn y ffilm roedd Zach Braff. Yn y ffilm, a agorodd yn 2006, mae Bilson yn chwarae myfyrwraig yn y coleg sy’n denu cymeriad Braff. Mae wedi ei ddweud fod Bilson wedi cael rhywun arall i wneud y golygfeydd rhyw gan ei bod hi’n teimlo’n anghyfforddus yn noeth o flaen y camera. Mae hi yn ymddangos yn yr olygfa am y ffilm derfynol, er hynny yn gwisgo bra lliw croen. Fe gyfaddefodd ei bod hi’n ofnus, ond dywedodd fod Zach wedi ei helpu drwyddi gan eu bod yn ffrindiau, ac ei bod hi’n teimo’n gyforddus yn ei wneud.

Mae Bilson wedi dweud bod yn well ganddi actio mewn ffilmiau nag ar y teledu, ac y byddai’n hoff o actio y math o rôlau y mae Natalie Portman a Scarlett Johansson yn gwneud. Mae hi wedi dweud, er ei bod hi’n ddiolchgar am lwyddiant The O.C., ei bod hi’n teimo fod y sioe drosodd a'i bod hi’n barod i symud ymlaen i rôlau ffilm. Ym Medi 2006, daeth adroddiadau fod Bilson yn mynd i serennu yn y fersiwn ffilm o’r llyfr comic Wonder Woman, ond mae Bilson wedi cadarnhau fod yr adroddiadau yn anwir.

Yn hwyr yn 2006, fe gafodd Bilson ei chastio yn rôl Millie yn y ddrama Jumper gan Doug Liman, yn lle yr actores Teresa Palmer; fe gafodd y ffilm ei rhyddhau ac Chwefror 14eg, 2008. Fe ymddangosodd Rachael hefyd mewn dwy episod mewn comedi gan Josh Schwartz, a greodd The O.C. hefyd, o’r enw Chuck.

Fe ymddangosodd mewn rhan o’r ffilm New York, I Love You, yn serennu ynghyd â Natalie Portman, Hayden Christensen ac Orlando Bloom. Ym Medi 2008 fe ddechreuodd hi ffilmio y ffilm rhamantus Waiting for Forever, a gyfarwyddwyd gan James Keach.

Bywyd Personol golygu

Dechreuodd Bilson fynd mas gyda ei chyd-actor o The O.C, Adam Brody, yn 2003. Yn hwyr yn 2006, fe orffennodd perthynas y ddau. Yn Mawrth 2007, fe ddechreuodd Bilson fynd mas â’r actor Canadaidd Hayden Christensen, ar ôl cwrdd ar y set o Jumper. Fe ddyweddiodd y ddau yn Rhagfyr 2008, dros y gwyliau.

Mae Bilson wedi cael ei chydnabod gan sawl person yn y cyfryngau fel “fashion junkie”. Mae hi wedi disgrifio ei steil i fod yn “vintage”, a dywedai taw Kate Moss a Diane Keaton yw ei hysbrydolwyr. Yn hwyr yn 2007 fe aeth hi at DKNY Jeans gyda’r bwriad i gynllunio casgliad o ddillad gyda’r brand fasiwn poblogaidd. Gyda’i gilydd fe gynllunion nhw Edie Rose. Fe gafodd y casgliad ei lawnsio ym Medi 2008. Fe gollodd hi lawer o’i chasgliad o ddillad pan dorrodd rhywun i mewn i’w thy ym Mai 2009. Mae Bilson wedi gwrthod ymddangos yn hanner noeth mewn cylchgronau dynion, gan ddweud ei bod hi’n teimlo ei bod ei chorff yn gysygredig ac ddim yno i’r byd i gyd i’w weld. Er hynny, mae hi wedi ymddangos mewn lluniau yn y cylchgronau dynion Stuff a GO.

LLunyddiaeth golygu

Ffilm
Blwyddyn Ffilm Rôl Nodiadau
2006 The Last Kiss Kim
2008 Jumper Millie Harris
2009 New York, I Love You Molly Snow yn aros iddo gael ei ryddhau
Waiting For Forever Emma Twist heb ei gynhyrchu eto
Teledu
Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
2003 8 Simple Rules Jenny Episod: "Career Choices"
Buffy the Vampire Slayer Colleen Episod: "Dirty Girls"
The O.C. Summer Roberts 2003-2007 (92 penodau)
2004 That '70s Show Christy Episod: "5:15"
2007 Chuck Lou 2 penodau