Seiclwraig Cymreig yw Rachel Sarah James (ganwyd 30 Awst 1988).

Rachel James
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnRachel Sarah James
Dyddiad geni (1988-08-30) 30 Awst 1988 (35 oed)
Manylion timau
DisgyblaethTrac a ffordd
RôlReidiwr
Math seiclwrSprint/Cyffredinol
Golygwyd ddiwethaf ar
11 Awst 2016

Mae'n ferch i David James a Christine Harris,[1] ac mae ganddi dair chwaer iau, Becky, sydd yn bencampwraig y byd,[2] Ffion a Megan, a brawd, Gareth, ac maent i gyd yn seiclwyr brwd. Mae Ffion yn aelod o dîm cenedlaethol beicio mynydd Prydain.[3]

Yn 2013, daeth James yn beilot ar y tandem ar gyfer y para-seiclwraig Sophie Thornhill.[4] Enillodd y pâr fedal aur a gosod record y byd ym Mhencampwriaethau Para-seiclo Trac y Byd, UCI 2014 yn Aguascalientes, yn y treial amser 1 km, a hynny yn eu cystadlaeuaeth cyntaf ryngwladol.[5] Enillont hefyd fedal aur yn y sbrint tandem.[6]

Cynrychiolodd James Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2014[7] fel peilot ar gyfer y cyn-nofwraig paralympaidd Rhiannon Henry.[8] Ymunodd James gyda Thornhill unwaith eto i gystadlu ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain ym mis Medi 2014, gan ennill y treial amser cymysg[9] a'r treial amser 200m, cychwyn hededog ar gyfer reidwyr dall ac â nam ar eu golwg.[10] Yn ogystal, cipiodd y fedal efydd yn y sbrint tîm ynghŷd â Helen Scott.[11]

Palmarès golygu

2012
1af Sbrint tîm, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain (gyda Becky James)
2013
3ydd Keirin, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
3ydd Sbrint tîm, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain (gyda Ellie Coster)
2014
1af Tandem B, Treial amser 1km, Pencampwriaethau Para-seiclo Trac y Byd, UCI (gyda Sophie Thornhill)[12]
1af Tandem B, Sbrint, Pencampwriaethau Para-seiclo Trac y Byd, UCI (with Sophie Thornhill)
1af Para Cycling BVI, Treial amser cymysg, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain (gyda Sophie Thornhill)
1af Para Cycling BVI, Treial amser 200m, cychwyn hededog, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain (gyda Sophie Thornhill)
3yddd Sbrint tîm, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain (gyda Helen Scott)

Cyfeiriadau golygu

  1. "Cwmheulog Hill-Climb". Cycling Shorts. 13 Hydref 2012.
  2. Observer Sport staff (29 Medi 2012). "After the Games: Becky James proves there is life after Pendleton". The Observer. Cyrchwyd 12 Hydref 2012.
  3. Fotheringham, William (23 Ebrill 2016). "British Cycling under the spotlight after Jess Varnish allegations". theguardian.com. Cyrchwyd 24 Ebrill 2016.
  4. "Double world cycling champion Becky James aims to retain titles in 2014". WalesOnline. 30 November 2013. Cyrchwyd 27 March 2014.
  5. McDaid, David (12 April 2014). "Para-cycling Track Championships 2014: GB win two gold medals". bbc.co.uk. Cyrchwyd 12 April 2014.
  6. McDaid, David (14 April 2014). "Para-cycling Track Championships 2014: Storey wins second gold". bbc.co.uk. Cyrchwyd 14 April 2014.
  7. "Commonwealth Games 2014: Olympic champion Geraint Thomas and world sprint star Becky James head up Welsh cycling team for Glasgow". Wales Online. 2014-07-09.
  8. Griffiths, Gareth (24 July 2014). "Commonwealth Games 2014: Rachel James and Rhiannon Henry miss out on Glasgow medal". WalesOnline. Cyrchwyd 29 July 2014.
  9. "British National Track Championships 24th-28th September 2014: Communiqué No 008" (PDF). trackworldcup.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2014-10-06. Cyrchwyd 25 September 2014.
  10. "National Track Championships: Jess Varnish powers to sprint title". bbc.co.uk. 26 September 2014. Cyrchwyd 28 September 2014.
  11. "Report and Results From Day Four". British Cycling. 27 September 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-06. Cyrchwyd 30 September 2014.
  12. "Communique #47: Results - Women's B 1km Time Trial Final". Union Cycliste Internationale. 11 Ebrill 2014. Cyrchwyd 12 Ebrill 2014.