Rachel Ray

Llyfr gan Anthony Trollope

Mae Rachel Ray yn nofel o 1863 gan Anthony Trollope. Mae'n adrodd hanes merch ifanc sy'n cael ei gorfodi i roi'r gorau i'w dyweddi oherwydd amheuon di-sail a gyfeiriwyd ato gan aelodau ei chymuned, gan gynnwys ei chwaer a bugeiliaid y ddwy eglwys a fynychwyd gan ei chwaer a'i mam.

Rachel Ray
Wynebddalen yr argraffiad cyntaf
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurAnthony Trollope
CyhoeddwrChapman and Hall Edit this on Wikidata
GwladDeyrnas Unedig
IaithSaesneg
Dyddiad cyhoeddi1863 Edit this on Wikidata
ISBN0-486-23930-6
GenreFfuglen, Nofel
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithDyfnaint Edit this on Wikidata

Comisiynwyd y nofel yn wreiddiol ar gyfer Good Words, cylchgrawn poblogaidd wedi'i anelu at ddarllenwyr Protestannaidd duwiol. Fodd bynnag, daeth golygydd y cylchgrawn, wrth ddarllen y proflenni, i'r casgliad y byddai portreadau negyddol aelodau'r isel eglwys a chymeriadau Efengylaidd yn gwylltio ac yn dieithrio llawer o'i ddarllenwyr. Gan hynny ni chyhoeddwyd y nofel ar ffurf gyfresol.

Crynodeb Plot golygu

Mae Rachel Ray yn ferch iau gwraig weddw i ddiweddar gyfreithiwr. Mae'n byw gyda'i mam a'i chwaer weddw, Dorothea Prime, mewn bwthyn ger Caerwysg yn Nyfnaint.

Mae Mrs Ray yn hawddgar ond yn wan, yn methu â gwneud penderfyniadau ar ei phen ei hun ac yn cael ei reoli gan ei merch hŷn. Mrs. Prime sydd yn efengylwraig lem a llym, sydd yn credu bod pob llawenydd bydol yn rhwystrau i iachawdwriaeth.

Mae Rachel yn cael ei chwrso gan Luke Rowan, dyn ifanc o Lundain sydd wedi etifeddu diddordeb mewn bragdy lleol proffidiol. Mae Mrs Prime yn amau ei foesau a'i gymhellion, ac yn cyfleu'r amheuon hyn i'w mam. Mae Ray yn ymgynghori â'i gweinidog, yr Isel Eglwyswr, Charles Comfort; ac ar ei eirda am Rowan, mae'n caniatáu i Rachel dderbyn ei gynnig o briodas.

Yn fuan wedi hyn, mae Rowan yn mynd i anghydfod ag uwch berchennog y bragdy, ac yn dychwelyd i Lundain i ofyn am gyngor cyfreithiol. Mae sibrydion yn cylchredeg am ei ymddygiad yn Nyfnaint. Mae Comfort yn credu'r sibrydion, ac yn cynghori Mrs. Ray i ddod â'r ymgysylltiad rhwng Rachel a Rowan i ben. Mae Rachel yn ufuddhau i gyfarwyddyd ei mam ac yn ysgrifennu at Rowan yn ei ryddhau o'r dyweddïad. Pan nad yw Rowan yn ymateb, mae hi'n tyfu'n fwyfwy isel.

Mae Rowan yn dychwelyd i Ddyfnaint, pan fo'r anghydfod ynghylch y bragdy wedi'i setlo i'w foddhad. Mae'n galw ar y teulu Ray ac yn sicrhau Rachel bod ei gariad tuag ati yn parhau mor ddwfn ag erioed. Mae hi'n cydsynio i'w gynigi newydd i'w phriodi. Mae gwynfyd priodasol yn dilyn.

Mae is blot yn y stori yn cynnwys hanes carwriaeth afresymol Mrs. Prime gan ei gweinidog, Samuel Prong. Mae Prong yn Efengylydd selog ond anoddefgar. Mae ei gredoau crefyddol yn unol â rhai hi, ond mae gan y ddau syniadau anghydnaws o briodas. Mae Prong yn mynnu awdurdod gŵr dros ei wraig, ac yn benodol dros yr incwm o ystâd ei gŵr cyntaf. Mae Mrs Prime eisiau cadw rheolaeth ar ei harian, ac mae'n anfodlon ymostwng i reolaeth gŵr.

Prif themâu golygu

Disgrifiodd James Pope-Hennessy Rachel Ray fel "araith lem Trollope yn erbyn clerigwyr efengylaidd Gorllewin Lloegr ".[1] Fel ei fam, Frances Trollope, a oedd wedi eu gwawdio yn ei nofel Vicar of Wrexhilll, nid oedd gan Anthony Trollope hoffter o Efengylwyr. Yn y nofel, mae Samuel Prong, fel Obadiah Slope o Barchester Towers, yn ymddangosiad fel un sy'n mynd ar drywydd priodas am arian yn hytrach na chariad,[2] ac nid yw'n "ŵr bonheddig".[3] Mrs. Mae Prime yn sarrug ac wedi'i ysgogi gan gariad at bŵer.[4] Mae ei chydymaith yn y Gymdeithas Dorcas leol (cymdeithas eglwysig sy'n darparu dillad i'r tlodion), Miss Pucker, yn lledaenydd clecs sur llygatgroes.[5] Mae hapusrwydd Rachel yn cael ei fygwth gan gynllwynion y cymeriadau Efengylaidd, ac mae ymyrraeth dau o'i chymdogion nad ydynt yn Efengylaidd yn hollbwysig wrth ei achub.[6]

Hanes datblygu a chyhoeddi golygu

 
Norman Macleod

Ym 1862, pan oedd Trollope yn agos at anterth ei yrfa lenyddol,[7][8] ysgrifennodd Norman Macleod ato yn ymofyn cymwynas. Roedd Macleod yn weinidog a chaplan Presbyteraidd adnabyddus i'r Frenhines Fictoria, roedd Macleod yn ffrind personol i Trollope ac yn gyd-aelod o Glwb y Garrick . Fodd bynnag, ysgrifennodd at Trollope yn rhinwedd ei swydd fel golygydd y cylchgrawn crefyddol Good Words.[9]

Roedd Good Words, a sefydlwyd ym 1860 gan y cyhoeddwr Albanaidd Alexander Strahan, yn gylchgrawn i Efengylwyr ac Anghydffurfwyr, yn enwedig o'r dosbarth canol is. Roedd y cylchgrawn yn cynnwys deunydd crefyddol amlwg, ond hefyd erthyglau ffuglen a ffeithiol ar bynciau cyffredinol, gan gynnwys gwyddoniaeth;[10] y safon ar gyfer cynnwys oedd bod yn rhaid i unigolyn defosiynol allu ei ddarllen ar ddydd Sul heb bechod. Ym 1863, roedd ganddo gylchrediad o 70,000.[9]

Ceisiodd Strahan a Macleod nofel gan Trollope i'w chyfresi yn y cylchgrawn ym 1863. Yn ôl hunangofiant Trollope, fe wrthododd i ddechrau, ond ildiodd pan barhaodd Macleod i bwyso arno.[11] Tarwyd bargen: byddai Trollope yn ysgrifennu nofel ar gyfer y cylchgrawn, i'w chyhoeddi'n gyfresol yn ail hanner 1863. Byddai Strahan yn talu £1000 am yr hawliau cyfresol. Am £100 ychwanegol, byddai Trollope yn ysgrifennu stori Nadolig i'w chyhoeddi yn rhifyn Ionawr 1863.[9]

Ymddangosodd y stori fer"The Widow's Mite" gan Trollope yn rhifyn mis Ionawr.[12] Hysbysebodd Strahan gyfresoli y nofel newydd oedd ar fin dod, i'w darlunio gan John Everett Millais, a oedd wedi darlunio Framley Parsonage ar gyfer y Cornhill Magazine.[13] Ysgrifennodd Trollope Rachel Ray rhwng 3 Mawrth a 29 Mehefin 1863.[14]

Wedi ymosodiad gan y Cylchgrawn Calfinaidd The Record ar waith Trollope fel cyffrogarwch a hanesion pwdr sy'n mynegi syniadau annuwiol sydd yn pydru meddyliau pobl ifanc.[15]

O ganlyniad i'r ymosodiad penderfynodd Strahan i gael gweld profion y wasg o Rachel Ray, nad oedd wedi'u darllen, cyn cytuno i gyhoeddi'r stori. Wrth eu darllen, daeth i'r casgliad bod y nofel yn anaddas i'r cylchgrawn. Pwysleisiodd wrth Trollope nad oedd wedi dod o hyd i unrhyw beth moesol wrthwynebus yn y stori; fodd bynnag, roedd yn teimlo y byddai'r portread negyddol o bob un o'r cymeriadau Efengylaidd yn tramgwyddo ei ddarllenwyr

Cyfeiriadau golygu

  1. Pope-Hennessy, James. Anthony Trollope. Cyhoeddiad gwreiddiol 1971. Phoenix Press paperback edition, 2001; p. 242.
  2. Pollard, Arthur. "Trollope and the Evangelicals". Nineteenth-Century Fiction, vol. 37, no. 3, Special Issue: Anthony Trollope, 1882–1982 (December 1982), pp. 329–39. Ar gael trwy JSTOR] adalwyd 31 Rhagfyr 2019.
  3. Trollope, Anthony. Rachel Ray, pen. 6[dolen marw] adalwyd 31 Rhagfyr 201911.
  4. Trollope, Anthony. Rachel Ray, pen. 1[dolen marw] adalwyd 31 Rhagfyr 2019
  5. Turner, Mark W. "Pucker, Miss" in The Oxford Reader's Companion to Trollope, ed. by R. C. Terry. Oxford University Press, 1999. pp. 219–221.
  6. Hamer, Mary. "Rachel Ray" yn The Oxford Reader's Companion to Trollope, gol R. C. Terry. Oxford University Press, 1999. pp. 457–58.
  7. Oliphant, Margaret ("Mrs. Oliphant"). "Anthony Trollope". Good Words for 1883. pp. 142–44. adalwyd 31 Rhagfyr 2019
  8. Escott, Thomas Hay Sweet. Anthony Trollope. London: John Lane, 1913. pp. 227. adalwyd 31 Rhagfyr 2019.
  9. 9.0 9.1 9.2 Super, R. H. The Chronicler of Barsetshire: A Life of Anthony Trollope. University of Michigan Press: first paperback edition, 1990. pp. 150–55.
  10. Malcolm, Judith Wittosch. "Good Words" in The Oxford Reader's Companion to Trollope, ed. by R. C. Terry. Oxford University Press, 1999. pp. 219–221.
  11. Trollope, Anthony. An Autobiography, pen. 10.[dolen marw] adalwyd 31 Rhagfyr 2019
  12. Trollope, Anthony. "The Widow's Mite". Good Words for 1863. pp. 33–43. adalwyd 31 Rhagfyr 2019
  13. Hall, N. John. Trollope: A Biography. Oxford University Press, 1991. pp. 251–56.
  14. Moody, Ellen. "A Chronology of Anthony Trollope's Writing Life". Ellen Moody's Website: Mostly on English and Continental and Womens' Literature. adalwyd 31 Rhagfyr 2019
  15. Record, 13 April 1863. Quoted in Sadleir, Michael (1927), Trollope: A Commentary. Revised American edition, Farrar, Straus and Company, 1947. p. 245.

Dolenni allanol golygu