Racia (/ˈrɑːkiə, ˈræ-, rəˈkə/) yw'r term cyfunol ar gyfer brandi ffrwythau sy'n boblogaidd yn y Balcanau. Mae cynnwys alcohol racia fel arfer yn 40% ABV, ond gall racia cartref fod yn gryfach (fel arfer yn 50%).[1] Until the 19th century, meyhanes would serve wine or meze.[2]

Racia (ракия) o Fwlgaria

Y blasau mwyaf cyffredin yw šljivovica, sy'n cael ei gynhyrchu o eirin, kajsija, o fricyll, neu grozdova/lozova ym Mwlgaria (raki rrushi yn Albania), neu "lozovača" neu "komovica" yn Croatia, Montenegro, Serbia a Bosnia sydd wedi'i gynhyrchu o rawnwin, yr un peth a "Zivania" yng Nghyprus. Mae ffrwythau sy'n cael eu defnyddio ond sy'n llai cyffredin yn cynnwys eirin gwlanog, afalau, gellyg, ceirios, ffigys, mwyar duon, and cwins. Mae gwirodydd tebyg yn cael eu cynhyrchu yn Rwmania, Moldofa, Gwlad Pwyl, Yr Wcrain, Y Weriniaeth Tsiec, Slofacia, Rwsia a'r Cawcasws. Yn Albania, mae rakia fel arfer yn cael ei wneud o rawnwin mewn ardaloedd hinsawdd dyner ac o eirin (a weithiau mwyar Mair neu gnau Ffrengig) mewn ardaloedd oerach eu hinsawdd.[3][4]

Mae racia gan amlaf yn ddi-liw, oni bai bod perlysiau neu gynhwysion eraill wedi'u hychwanegu. Mae rhai mathau o racia yn cael eu cadw mewn casgenni pren (derw neu ferwydden) er mwyn ychwanegu sawr a lliw.

Mae i fod i gael ei yfed o wydrau bychain sy'n dal rhwng 30 a 50 ml.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Encyclopædia Britannica". Cyrchwyd 4 September 2013.
  2. Music of the Sirens, Inna Naroditskaya, Linda Phyllis Austern, Indiana University Press, p.290
  3. Veselina Angelova, Liliya Tsatcheva (10 Hydref 2011). "A Bulgarian Archeologist Has Proved It - Rakia is Bulgarian". Trud. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2018-09-15. Check date values in: |date= (help)
  4. "Bulgarian Archaeologists Discover 11th Century Rakia Distillation Vessel". www.novinite.com (yn English). 2015-07-27.CS1 maint: unrecognized language (link)