Sefydlwyd Radio Bro Gwened yn 1983 fel gorsaf radio i wasanaethu ardal Bro Gwened (Morbihan) yn Llydaw. Mae'n darlledu rhaglenni yn Llydaweg a Ffrangeg gyda'r amcan o hyrwyddo a diogelu'r iaith Lydaweg a diwylliant Llydaw. Lleolir y pencadlys yn Pontivy.

Radio Bro-Gwened
Enghraifft o'r canlynolgorsaf radio Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1983 Edit this on Wikidata
PencadlysPondi Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.radio-bro-gwened.com Edit this on Wikidata

Mae'n darlledu ar dair amledd FM : 92.6 Mhz (Pontivy), 101.7 Mhz (Nord-Morbihan) a 97.3 Mhz (De-Morbihan). Mae Radio Bro-Gwened yn darlledu 7 awr o raglenni amrywiol (4 awr yn Llydaweg) yn ogystal â rhaglenni newyddion a deunydd arall. Mae ar gael fel radio rhyngrwyd hefyd.

Mae Radio Bro-Gwened hefyd yn gweithio gyda chyfnewid rhaglenni o fewn y rhwydwaith o orsafoedd radio cysylltiadol yn yr iaith Lydaweg a elwyd yn wreiddiol yn Brudañ ha Skignañ ("trosglwyddo a darlledu") ond a elwir bellach yn Radio Breizh.[1]

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Brudañ ha Skignañ : les radios bretonnes brittophones se mettent en réseau". Agence Bretagne Presse. 15 Hydref 2008.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Lydaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am radio. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato