Radio yng Nghymru

Mae hanes radio yng Nghymru yn dechrau gyda'r darllediadau arbrofol a wnaeth Marconi, ond bu'n rhaid aros yn hir i gael gwasanaethau radio yng Nghymru ei hun. Erbyn heddiw mae sawl gorsaf radio lleol yn y wlad a cheir gwasanaeth cenedlaethol yn y ddwy iaith, sef BBC Radio Cymru yn y Gymraeg a BBC Radio Wales yn Saesneg.

Plaid Cymru'n darlledu "Radio Wales" yn anghyfreithlon am y tro cyntaf yn y gogledd; Awst 1959, Geoff Charles.

Hanes golygu

Darlledwyd y neges radio gyntaf yn y byd o bentref Larnog, Bro Morgannwg. Ar 13 Mai 1897, gyrrodd Guglielmo Marconi neges dros y môr oddi yno at Ynys Echni. Ei chynnwys hi oedd "Are you ready?".

Ym mlynyddoedd cynnar radio bu rhaid i Gymru fodloni ar raglenni Saesneg y BBC a ddarlledid o Loegr. Cyndyn iawn oedd y BBC i ddarlledu yn Gymraeg.[1] Yn rannol yn sgîl ymgyrchu a phwysau gan aelodau gweithgar Cylch Dewi, cynhyrchai gorsaf darlledu Caerdydd peth o'i deunydd ei hun yn y 1920au, gan gynnwys ambell i gân a sgwrs Gymraeg. Ar orsaf 5WA, Caerdydd, y clywyd Cymraeg gyntaf erioed ar y radio ar 13 Chwefror, 1923 ar gân, ac ar Ddydd Gŵyl Ddewi 1923 ar lafar.[2] Ond ardal Caerdydd yn unig a glywai'r darllediadau Cymraeg hyn. Yr unig raglen Gymraeg a glywid ledled Cymru oedd y rhaglen a ddarlledwyd o 1927 ymlaen o Ddulyn.[1] Roedd arweinyddiaeth y BBC yn cynnal polisi darlledu cenedlaethol Brydeinig a Seisnig ac yn gwrthod sefydlu gwasanaeth Cymreig na Chymraeg am hir amser. Wedi ymgyrchu dygn yng Nghymru caniatawyd i stiwdio Bangor gynhyrchu rhaglenni Cymraeg o 1935 ymlaen. Darllediad gan David Lloyd George ar 8 Tachwedd 1923 oedd y darllediad Cymraeg cyntaf o stiwdio Bangor.[2]

Roedd Pwyllgor Darlledu Prifysgol Cymru yn rhan bwysig o'r ymgyrchu ac erbyn 1937 llwyddwyd i sefydlu Rhanbarth Cymreig y BBC yn lle rhanbarth y Gorllewin ('Teyrnas y Brenin Arthur') a gynhwysai de-orllewin Lloegr yn ogystal â Chymru.[1] Roedd cwynion gwrandawyr de-orllewin Lloegr am yr ychydig oriau o ddarlledu Cymraeg hefyd yn rhan o'r pwysau ar y BBC i sefydlu'r Rhanbarth Cymreig. Manteisiodd llenorion Cymru ar eu cyfle, gan gynnwys Saunders Lewis a sgriptiodd ei ddrama radio Buchedd Garmon ar gyfer y BBC; cafodd ei darlledu yn 1937.

 
Logo cyfredol Radio Cymru

Ond pan ddechreuodd yr ail ryfel byd diddymwyd gwasanaeth Rhanbarth Cymru'r BBC. Bu raid i Undeb Cymru Fydd ymgyrchu dros adfer y darllediadau Cymraeg. Llwyddwyd i gael tair awr a hanner yr wythnos erbyn 1940. 1940 oedd y flwyddyn y cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru ar y radio.

Adferwyd gwasanaeth radio Rhanbarth Cymru yn 1945 ond darlledai yn Saesneg yn bennaf. Darlledwyd peth cynnyrch Cymreig, gan gynnwys dramau radio gan lenorion Saesneg fel Dylan Thomas ac Emyr Humphreys. Bu'n rhaid disgwyl hyd 1977 cyn y cafwyd y gwasanaeth Cymraeg cyflawn cyntaf, sef Radio Cymru ar y BBC. Hywel Gwynfryn oedd cyflwynydd cyntaf Radio Cymru. Dim ond yn ystod y bore y darlledwyd rhaglenni ar y dechrau, ond erbyn heddiw mae rhaglenni Cymraeg yn dechrau am 5 o'r gloch y bore ac yn terfynu am 1 o'r gloch y bore wedyn. Mae'n bosib clywed y rhaglenni hyn ar y we, hefyd.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 John Davies, Hanes Cymru, tt 542, 566 (The Penguin Press, 1990)
  2. 2.0 2.1 Gwyn Jenkins, Andy Misell, a Tegwyn Jones, Llyfr y Ganrif, tud. 101 (y Lolfa, 1999)

Gweler hefyd golygu