Ralph Lingen, Barwn 1af Lingen

Gwas sifil o Loegr oedd Ralph Robert Wheeler Lingen, Barwn 1af Lingen KCB (19 Rhagfyr 181922 Gorffennaf 1905).[1] Mae'n adnabyddus fel un o'r tri chomisiynydd a oedd yn gyfrifol am yr adroddiad Inquiry into the State of Popular Education in Wales (1847) – y Llyfrau Gleision drwg-enwog.

Ralph Lingen, Barwn 1af Lingen
Ganwyd19 Rhagfyr 1819 Edit this on Wikidata
Birmingham Edit this on Wikidata
Bu farw22 Gorffennaf 1905 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • Bridgnorth Endowed School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddPermanent Secretary to the Treasury, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, member of London County Council Edit this on Wikidata
TadThomas Lingen Edit this on Wikidata
MamAnn Palmer Wheeler Edit this on Wikidata
PriodEmma Hutton Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Cadlywydd Urdd y Baddon Edit this on Wikidata

Fe'i ganwyd yn Birmingham, yn fab i'r dyn busnes Thomas Lingen (1771–1848). Astudiodd yn Ysgol Ramadeg Bridgnorth, Swydd Amwythig (1831–7), ac yng Ngholeg y Drindod, Rhydychen (1837–40). Enillodd gymrodoriaeth yn Ngholeg Balliol, Rhydychen ym 1841. Cafodd ei alw i'r Bar yn Lincoln's Inn, Llundain, ym 1847, ond ni ymarferodd fel bargyfreithiwr, ond daeth yn was sifil yn y Swyddfa Addysg y Llywodraeth.

Yn 1846 fe'i penodwyd, gyda Jelinger Cookson Symons a Henry Robert Vaughan Johnson – dau fargyfreithiwr arall o Loegr – yn gomisiynydd ymchwiliad seneddol i gyflwr addysg yng Nghymru. Ar adeg pan oedd mwyafrif y boblogaeth yn siaradwyr Cymraeg roedd y tri chomisiynydd yn siaradwyr Saesneg uniaith. Roeddent yn dibynnu i raddau helaeth ar dystiolaeth unochrog gan dirfeddianwyr a chlerigwyr Anglicanaidd a ddifenwasant iaith, addysg a moesoldeb y Cymry Cymraeg. Arweiniodd adroddiad y comisiynwyr – a gyhoeddwyd mewn cloriau glas ym 1847– at ddicter yng Nghymru, a daeth y mater yn adnabyddus fel Brad y Llyfrau Gleision.

Ym 1849 fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Parhaol i'r Adran Addysg, ac wedyn, ym 1969 yn Ysgrifennydd Parhaol y Trysorlys, swydd y parhaodd i'w gwneud nes iddo ymddiswyddo yn 1885, pan gafodd ei urddo'n arglwydd fel Barwn Lingen.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gillian Sutherland (2008), "Lingen, Ralph Robert Wheeler, Baron Lingen", Oxford Dictionary of National Biography