Ralph Thomas Hotchkin Griffith

Ysgolhaig Indoleg o dras Cymreig a gofir am ei gyfieithiadau campus o lyfrau'r Veda oedd Ralph Thomas Hotchkin Griffith (25 Mai 1826 - 7 Tachwedd 1906).

Ralph Thomas Hotchkin Griffith
Ganwyd25 Mai 1826 Edit this on Wikidata
Bu farw7 Tachwedd 1906 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethacademydd mewn Sanskrit, geiriadurwr, cyfieithydd Edit this on Wikidata

Roedd yn fab i'r Parch R. C. Griffith. Cafodd ei addysg yn Warminster, Uppingham a Choleg y Frenhines, Rhydychen, lle enillodd gradd BA. Ar 24 Tachwedd 1849 cafodd ei ethol i'r Ysgoloriaeth Sansgrit yn y brifysgol honno. O 1854 ymlaen gweithiodd, dysgodd ac astudiodd yn India, e.e. fel pennaeth Coleg Benares. Ymddeolodd yn 1885 i ganolbwyntio ar ei waith ysgolheigaidd.

Ei brif waith oedd cyfieithu'r ysgrythurau Vedig i'r Saesneg. Ond yn ogystal cyfieithodd sawl gwaith Sansgrit arall, yn cynnwys y Ramayana a'r Kumara Sambhava gan Kalidasa. Ei gampwaith efallai yw ei gyfieithiad o'r Rig Veda sy'n dilyn y testun Sansgrit a sefydlwyd gan Max Müller. Mae ei ddarlleniadau yn tueddu i ddilyn rhai Sayana, ysgolhaig enwog a fu'n brif weinidog yn llys y Brenin Vijaynagar - yn ardal Bellary, Karnataka, heddiw - yn y 14g. Cyhoeddodd hefyd argraffiadau o'r Sama Veda, Yajur Veda a'r Atharva Veda.

Llyfryddiaeth golygu