Terfysgwr Kuwaitaidd o linach gymysg Pacistanaidd a Phalesteinaidd sy'n enwocaf am ei ran mewn cynllunio ymosodiad ar Ganolfan Masnach y Byd yn 1993 yw Ramzi Ahmed Yousef neu Ramzi Mohammed Yousef (Arabeg: رمزي يوسف‎). Fe'i arestiwyd yn Islamabad yn 1995 a'i estraddodi i'r Unol Daleithiau, lle gafodd ei roi ar brawf yn Ninas Efrog Newydd a'i ddyfarnu'n euog, ynghŷd â dau o'i gyd-gynllwynwyr, o gynllunio Cynllwyn Bojinka. Dywedodd Yousef, "rydw i'n derfysgwr, ac yn falch o hynny cyn belled â'i bod yn erbyn llywodraeth yr Unol Daleithiau".[1] Cafodd ei ddedfrydu i garchar am oes heb barôl. Khalid Shaikh Mohammed, aelod hŷn o al-Qaeda sydd hefyd dan warchodaeth yr Unol Daleithiau, yw ewythr Yousef.

Ramzi Yousef
Ganwyd27 Ebrill 1968, 20 Mai 1967 Edit this on Wikidata
Coweit Edit this on Wikidata
DinasyddiaethPacistan Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Kuwait University Edit this on Wikidata
Galwedigaethterfysgwr Edit this on Wikidata

Mae Yousef bellach yn honni ei fod wedi troi'n Gristion.[2]

Nodiadau golygu

  1. (Saesneg) 'Proud terrorist' gets life for Trade Center Bombing. CNN.com (8 Ionawr, 1998). Adalwyd ar 28 Mawrth, 2008.
  2. (Saesneg) Producer's Notebook: My Trip To Supermax. CBS (21 Mehefin 2009). Adalwyd ar 15 Medi 2012.

Llyfryddiaeth golygu

  • Simon Reeve (1999). The New Jackals: Ramzi Yousef, Osama bin Laden and the future of terrorism. André Deutsch Limited. ISBN 0233050485